Kow: ar fynediad y Bardd i ymweled ai gariad
1 Fal i roeddwn fawl rwyddiaith
2 gwiw fu'r dyn gwae fi or daith
3 gwedi dowad oi gwydrball
4 lle i roi gwen gymen gall
9 trylam mi a glown wr traglew
10 yn rhoddi naid a llygaid llew
11 amlwg i dou im ymlid
12 yn greulawn ag yn llawn llid
13 o ddig am i wraig ddysglair
14 wr dewr kru myn duw ar krair
15 [37] rhwygais y koudydd rhagddaw
16 du nig lid diengais oi law
17 galws yn ddig fal eiddigddyn
18 aro fi heno fy hyn
19 arfau drwg i drigioni
20 ywr kywyddau oth dau di
21 llechais mewn ystafell gell gau
22 rhag eiddig oedd ir gwyddau
23 doedwn yn dda om stafell
24 ni bu rhag gofal wal well
25 kodes hen fam wudd drwynbant
26 ai fflu oedd gysgod i fflant
27 dattot mantell im deytu
28 dialeth y fameth a fu
29 am dilid or wudd lid lai
30 om dinistr am bwrw danai
31 kurodd drwg iawn im kweiriwyd
32 ku aran droednoeth llydan llwyd
33 meddau fy chwaur im drannoeth
34 meinir deg ai mwyn air doeth
35 saithwauth ganthi nan kyflwr
36 ni yn dau na geiriau i gwr
37 weled hen fanwydd blwydd blu
38 gogam wddw goeg im mauddu
39 pei tale/r/ wydd arglwyddiaeth
40 gwyr kaur ai chware kaeth
41 gwnaf ir famwydd dramgwydd dro
42 rhybiddied rhag i beiddio
43 amarch oi chorpws mawnlwydd
44 am i hwyl yr wyl yr wydd
Dafydd ap Gwilim ai kant
Nodiadau
1. ymyl y ddalen: gynt noswaith