{ko: ir wydd am i guro}
1 Val yr oeddwn gynt noswaith
2 gwiw vu'r dyn gwae vi or daith
3 gwedy dyvod oi gwydrball
4 ynlle ddoedd gwen gymen gall
5 ai hir gennyd yr ydwyd
6 dyn goddefgar serchog wyd
7 vy aur gwyddost may rhyir
8 am ba ham oedd na bai hir
9 nycha i clywn wr traglew
10 yn bwrw carwnaid llygaid llew
11 yn dwyn lluchynt i'm ymlid
12 yn grevlawn ac yn llawn llid
13 [282] o ddig am i wraig ddisglair
14 vn dewr cryf myn Deo ar crair
15 gwybvym encil rhac ddaw
16 gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw
17 hwyr yt velen yspardvn
18 aro vi heno vy hvn
19 arvae drwg i ddigoni
20 yw'r cywyddau sydd dau di
21 ciliais i stavell gell gau
22 ag addurn oedd ir gwyddau
23 meddwn i o'm ystavell
24 ni bu rhac gofal wal well
25 codes hen vamwydd drwynbant
26 oi phlu oedd gysgod oi phlant
27 datod mantell i'm deutu
28 dialeth y vameth vu
29 am dylud or wydd lud lai
30 am dinestr am bwrw danai
31 cares drwg i'm cyweiriwyd
32 cu aran balf lydan lwyd
33 meddai vy chwaer ym drannoeth
34 meinir deg ai mwynair doeth
35 seithwaeth genthi no'n cyflwr
36 ni'n dau ag no geiriae'r gwr
37 gweled hen vamwydd blwydd blu
38 gogam wddw goeg i'm maeddu
39 pei gatai arglwyddiaeth
40 gwyr Caer ai gwareuae caeth
41 gwnawn ir vamwydd dramgwydd dro
42 rhybuddied rhai ai beiddio
43 ammarch yw chorpws nowmlwydd
44 am i hwyl yr wyl yr wydd
Dauid ap Gwilim