â â â Tri Phorthor Eiddig
1â â â Tri phorthor, dygyfor dig,
2â â â Trafferth oedd, triphorth Eiddig,
3â â â Trefnwyd hwnt i'm tra ofni,
4â â â Trwch ym gyfarfod â'r tri.
5â â â Cyntaf, plas dyungas dig,
6â â â Parthai rodd, porthor Eiddig,
7â â â Ci glew llwfrddrew llafarddrud,
8â â â Cynddrwg sôn, cynddeiriog sud;
9â â â A'r ail porthor yw'r ddôr ddig,
10â â â Wae ei chydwr, wichedig;
11â â â Trydydd, gwn beunydd benyd,
12â â â A ludd ym gael budd o'r byd,
13â â â Gwrach heinus ddolurus ddig,
14â â â Addaw dydd, ddiwyd Eiddig.
15â â â Pe cyd y nos, pe caid nef,
16â â â Â dengnos, wrach ddidangnef,
17â â â Unawr, mewn gwâl chweinial chwyrn,
18â â â Ni chwsg, am nad iach esgyrn.
19â â â Cynar nychled yn cwynaw
20â â â Ei chlun, drwg ei llun, a'i llaw,
21â â â A dolur ei dau elin,
22â â â A'i phalfais yn glais, a'i glin.
23â â â Deuthum echnos, dunos dig,
24â â â Afrwyddwr, i fro Eiddig,
25â â â O radd daw, ar oddau, dioer,
26â â â Ymweled â gem wiwloer.
27â â â Carchar bardd, a mi'n cyrchu
28â â â Yn ddigyngor y ddôr ddu,
29â â â Neidiodd, mynnodd fy nodi,
30â â â Ci coch o dwlc moch i mi.
31â â â Rhoes hyr ym yn rhy sarrug,
32â â â Rhoes frath llawn yn rhawn yr hug.
33â â â Cynhiniawdd, caer gawdd, ci'r gwr,
34â â â Cabl a'm sym, cwbl o'm simwr.
35â â â Rhois hwp i'r ddôr, cogor cawg,
36â â â Dderw, hi aeth yn gynddeiriawg.
37â â â Gwaeddodd fal siarad gwyddau,
38â â â Och ym o beiddiais ei chau!
39â â â Cul awen wrid, clywn y wrach,
40â â â Coelfain oedd waeth, mewn cilfach,
41â â â Yn taeru (panid dyrys?)
42â â â Wrth wr y ty fry ar frys,
43â â â 'Mae'r ddromddor yn agori,
44â â â Mae'n fawr, braich cawr, broch y ci.'
45â â â Ciliais yn swrth i'm gwrthol
46â â â I'r drws, a'r ci mws i'm ôl.
47â â â Rhodiais, ni hir syniais i,
48â â â Gan y mur, gwn ym oeri,
49â â â Hyd am y gaer loywglaer lân
50â â â I ymorol â gem eirian.
51â â â Saethais drwy'r mur, gur gywain,
52â â â Saethau serch at y ferch fain.
53â â â Saethodd hon o'i gloywfron glau
54â â â Serch i ymannerch â minnau.
55â â â Digrif oedd ym, ni'm sym serch,
56â â â Am y maenfur â meinferch.
57â â â Cwynais, mynegais fy nig,
58â â â Dihir oedd, rhag dôr Eiddig,
59â â â Damweinwr, a'i domenni,
60â â â A'i wrych gwg a'i wrach a'i gi.
61â â â Cyd gallo'r wrach, cyd golli,
62â â â A'r ddôr islaw'r côr a'r ci
63â â â Fy lluddias, glew farddwas glyn,
64â â â I dai Eiddig a'i dyddyn,
65â â â Rhydd y mae Duw yn rhoddi
66â â â Coed briglaes a maes i mi.