Testun Golygedig: 68 - Tri Phorthor Eiddig

Tri Phorthor Eiddig

Tri phorthor, dygyfor dig,
Trafferth oedd, triphorth Eiddig,
Trefnwyd hwnt i'm tra ofni,
4 Trwch ym gyfarfod â'r tri.
Cyntaf, plas dyungas dig,
Parthai rodd, porthor Eiddig,
Ci glew llwfrddrew llafarddrud,
8 Cynddrwg sôn, cynddeiriog sud;
A'r ail porthor yw'r ddôr ddig,
Wae ei chydwr, wichedig;
Trydydd, gwn beunydd benyd,
12 A ludd ym gael budd o'r byd,
Gwrach heinus ddolurus ddig,
Addaw dydd, ddiwyd Eiddig.
Pe cyd y nos, pe caid nef,
16 Â dengnos, wrach ddidangnef,
Unawr, mewn gwâl chweinial chwyrn,
Ni chwsg, am nad iach esgyrn.
Cynar nychled yn cwynaw
20 Ei chlun, drwg ei llun, a'i llaw,
A dolur ei dau elin,
A'i phalfais yn glais, a'i glin.

   Deuthum echnos, dunos dig,
24 Afrwyddwr, i fro Eiddig,
O radd daw, ar oddau, dioer,
Ymweled â gem wiwloer.
Carchar bardd, a mi'n cyrchu
28 Yn ddigyngor y ddôr ddu,
Neidiodd, mynnodd fy nodi,
Ci coch o dwlc moch i mi.
Rhoes hyr ym yn rhy sarrug,
32 Rhoes frath llawn yn rhawn yr hug.
Cynhiniawdd, caer gawdd, ci'r gŵr,
Cabl a'm sym, cwbl o'm simwr.
Rhois hwp i'r ddôr, cogor cawg,
36 Dderw, hi aeth yn gynddeiriawg.
Gwaeddodd fal siarad gwyddau,
Och ym o beiddiais ei chau!
Cul awen wrid, clywn y wrach,
40 Coelfain oedd waeth, mewn cilfach,
Yn taeru (panid dyrys?)
Wrth ŵr y tŷ fry ar frys,
'Mae'r ddromddor yn agori,
44 Mae'n fawr, braich cawr, broch y ci.'

   Ciliais yn swrth i'm gwrthol
I'r drws, a'r ci mws i'm ôl.
Rhodiais, ni hir syniais i,
48 Gan y mur, gwn ym oeri,
Hyd am y gaer loywglaer lân
I ymorol â gem eirian.
Saethais drwy'r mur, gur gywain,
52 Saethau serch at y ferch fain.
Saethodd hon o'i gloywfron glau
Serch i ymannerch â minnau.
Digrif oedd ym, ni'm sym serch,
56 Am y maenfur â meinferch.
Cwynais, mynegais fy nig,
Dihir oedd, rhag dôr Eiddig,
Damweinwr, a'i domenni,
60 A'i wrych gwg a'i wrach a'i gi.

   Cyd gallo'r wrach, cyd golli,
A'r ddôr islaw'r côr a'r ci
Fy lluddias, glew farddwas glyn,
64 I dai Eiddig a'i dyddyn,
Rhydd y mae Duw yn rhoddi
Coed briglaes a maes i mi.