| Tri Phorthor Eiddig | |
| Tri phorthor, dygyfor dig, | |
| Trafferth oedd, triphorth Eiddig, | |
| Trefnwyd hwnt i'm tra ofni, | |
| 4 | Trwch ym gyfarfod â'r tri. |
| Cyntaf, plas dyungas dig, | |
| Parthai rodd, porthor Eiddig, | |
| Ci glew llwfrddrew llafarddrud, | |
| 8 | Cynddrwg sôn, cynddeiriog sud; |
| A'r ail porthor yw'r ddôr ddig, | |
| Wae ei chydwr, wichedig; | |
| Trydydd, gwn beunydd benyd, | |
| 12 | A ludd ym gael budd o'r byd, |
| Gwrach heinus ddolurus ddig, | |
| Addaw dydd, ddiwyd Eiddig. | |
| Pe cyd y nos, pe caid nef, | |
| 16 | Â dengnos, wrach ddidangnef, |
| Unawr, mewn gwâl chweinial chwyrn, | |
| Ni chwsg, am nad iach esgyrn. | |
| Cynar nychled yn cwynaw | |
| 20 | Ei chlun, drwg ei llun, a'i llaw, |
| A dolur ei dau elin, | |
| A'i phalfais yn glais, a'i glin. | |
| Deuthum echnos, dunos dig, | |
| 24 | Afrwyddwr, i fro Eiddig, |
| O radd daw, ar oddau, dioer, | |
| Ymweled â gem wiwloer. | |
| Carchar bardd, a mi'n cyrchu | |
| 28 | Yn ddigyngor y ddôr ddu, |
| Neidiodd, mynnodd fy nodi, | |
| Ci coch o dwlc moch i mi. | |
| Rhoes hyr ym yn rhy sarrug, | |
| 32 | Rhoes frath llawn yn rhawn yr hug. |
| Cynhiniawdd, caer gawdd, ci'r gŵr, | |
| Cabl a'm sym, cwbl o'm simwr. | |
| Rhois hwp i'r ddôr, cogor cawg, | |
| 36 | Dderw, hi aeth yn gynddeiriawg. |
| Gwaeddodd fal siarad gwyddau, | |
| Och ym o beiddiais ei chau! | |
| Cul awen wrid, clywn y wrach, | |
| 40 | Coelfain oedd waeth, mewn cilfach, |
| Yn taeru (panid dyrys?) | |
| Wrth ŵr y tŷ fry ar frys, | |
| 'Mae'r ddromddor yn agori, | |
| 44 | Mae'n fawr, braich cawr, broch y ci.' |
| Ciliais yn swrth i'm gwrthol | |
| I'r drws, a'r ci mws i'm ôl. | |
| Rhodiais, ni hir syniais i, | |
| 48 | Gan y mur, gwn ym oeri, |
| Hyd am y gaer loywglaer lân | |
| I ymorol â gem eirian. | |
| Saethais drwy'r mur, gur gywain, | |
| 52 | Saethau serch at y ferch fain. |
| Saethodd hon o'i gloywfron glau | |
| Serch i ymannerch â minnau. | |
| Digrif oedd ym, ni'm sym serch, | |
| 56 | Am y maenfur â meinferch. |
| Cwynais, mynegais fy nig, | |
| Dihir oedd, rhag dôr Eiddig, | |
| Damweinwr, a'i domenni, | |
| 60 | A'i wrych gwg a'i wrach a'i gi. |
| Cyd gallo'r wrach, cyd golli, | |
| A'r ddôr islaw'r côr a'r ci | |
| Fy lluddias, glew farddwas glyn, | |
| 64 | I dai Eiddig a'i dyddyn, |
| Rhydd y mae Duw yn rhoddi | |
| Coed briglaes a maes i mi. | |