Tri Phorthor Eiddig
Tri cheidwad, cynulliad cas,
tair mynedfa'r Gwr Eiddig, trafferth oedd,
gosodwyd hwy acw i'm dychryn,
4 anffodus oedd i mi gyfarfod â'r tri.
Porthor cyntaf Eiddig,
dosbarthai rodd, ty creulon lle crynhoir gelynion,
yw ci cryf sy'n drewi'n llaith ac yn cyfarth yn ffyrnig,
8 trwst ofnadwy, fel petai'n gynddeiriog;
a'r ail borthor yw'r drws blin
sy'n gwichian, gwae ei gymar;
y trydydd sy'n f'atal rhag cael elw o'r byd,
12 rwy'n profi cosb bob dydd,
yw hen wraig glaf ddolurus a blin
(darogan diwrnod marwolaeth), morwyn ffyddlon Eiddig.
Pe bai'r nos mor hir â deng noson,
16 petai hi yn y nef - wrach aflonydd -
ni fydd yn cysgu am un awr
yn ei lloches chweinllyd arw am fod ei hesgyrn yn dost.
Hwch afiach yn cwyno
20 am ei chlun (mae'n hyll) a'i llaw,
a'r boen yn ei dau benelin,
a'i hysgwydd yn ddolurus, a'i phenglin.
Deuthum echnos, noson dywyll arw,
24 dyn trwsgl, i fro'r Gwr Eiddig,
mewn cyflwr gwestai, gan fwriadu, yn wir,
ymweld â merch mor hardd â'r lloer.
Carchar bardd, wrth i mi fynd
28 yn ddifeddwl tuag at y drws du,
neidiodd ci coch allan o dwlc moch
tuag ataf, mynnodd osod ei farc arnaf.
Chwyrnodd yn ffyrnig iawn arnaf
32 a chymerodd frath llawn o rawn fy nghlogyn.
Llarpiodd ci'r gwr, caer ofnadwy,
y cwbl o'm mantell, sarhad sy'n fy nigio.
Gwthiais y drws derw, [fel] twrw dysgl,
36 fe aeth yn orffwyll.
Cadwodd swn fel cleber gwyddau,
ni feiddiais ei gau ar f'enaid!
Cochni awen gul, clywn yr hen wraig,
40 newydd oedd yn waeth, mewn cornel
yn taeru (onid anffodus?)
wrth wr y ty uchod ar frys,
'Mae'r drws trwm yn agor,
44 mae cynddaredd y ci yn fawr [fel] braich cawr.'
Ciliais yn f'ôl yn ddisymwth
i'r drws, a'r ci drewllyd ar f'ôl.
Cerddais, nid ystyriais yn hir,
48 wrth y mur, gwn i mi oeri,
ar hyd y gaer ddisglair hardd
i alw ar yr em deg.
Saethais saethau serch drwy'r mur
52 at y ferch fain, cynnull poen.
Saethodd hi o'i bron loyw barod
serch i'm cyfarch innau.
Hyfryd oedd i mi, nid yw serch yn fy nigio,
56 yr ochr arall i'r mur maen â'r ferch fain.
Cwynais, mynegais fy nicter,
dybryd oedd, am ddrws Eiddig,
dyn sy'n peri anffawd, a'i domenni,
60 a'i glawdd sarrug a'i hen wraig a'i gi.
Er bod yr hen wraig, colli cyfathrach,
a'r drws islaw'r neuadd a'r ci
yn medru fy rhwystro, bardd ifanc dewr y dyffryn,
64 rhag tai Eiddig a'i gartref,
mae Duw'n rhoi'r coed canghennog
a'r maes yn rhydd i mi.