| Tri Phorthor Eiddig | |
| Tri cheidwad, cynulliad cas, | |
| tair mynedfa'r Gŵr Eiddig, trafferth oedd, | |
| gosodwyd hwy acw i'm dychryn, | |
| 4 | anffodus oedd i mi gyfarfod â'r tri. |
| Porthor cyntaf Eiddig, | |
| dosbarthai rodd, tŷ creulon lle crynhoir gelynion, | |
| yw ci cryf sy'n drewi'n llaith ac yn cyfarth yn ffyrnig, | |
| 8 | trwst ofnadwy, fel petai'n gynddeiriog; |
| a'r ail borthor yw'r drws blin | |
| sy'n gwichian, gwae ei gymar; | |
| y trydydd sy'n f'atal rhag cael elw o'r byd, | |
| 12 | rwy'n profi cosb bob dydd, |
| yw hen wraig glaf ddolurus a blin | |
| (darogan diwrnod marwolaeth), morwyn ffyddlon Eiddig. | |
| Pe bai'r nos mor hir â deng noson, | |
| 16 | petai hi yn y nef – wrach aflonydd – |
| ni fydd yn cysgu am un awr | |
| yn ei lloches chweinllyd arw am fod ei hesgyrn yn dost. | |
| Hwch afiach yn cwyno | |
| 20 | am ei chlun (mae'n hyll) a'i llaw, |
| a'r boen yn ei dau benelin, | |
| a'i hysgwydd yn ddolurus, a'i phenglin. | |
| Deuthum echnos, noson dywyll arw, | |
| 24 | dyn trwsgl, i fro'r Gŵr Eiddig, |
| mewn cyflwr gwestai, gan fwriadu, yn wir, | |
| ymweld â merch mor hardd â'r lloer. | |
| Carchar bardd, wrth i mi fynd | |
| 28 | yn ddifeddwl tuag at y drws du, |
| neidiodd ci coch allan o dwlc moch | |
| tuag ataf, mynnodd osod ei farc arnaf. | |
| Chwyrnodd yn ffyrnig iawn arnaf | |
| 32 | a chymerodd frath llawn o rawn fy nghlogyn. |
| Llarpiodd ci'r gŵr, caer ofnadwy, | |
| y cwbl o'm mantell, sarhad sy'n fy nigio. | |
| Gwthiais y drws derw, [fel] twrw dysgl, | |
| 36 | fe aeth yn orffwyll. |
| Cadwodd sŵn fel cleber gwyddau, | |
| ni feiddiais ei gau ar f'enaid! | |
| Cochni awen gul, clywn yr hen wraig, | |
| 40 | newydd oedd yn waeth, mewn cornel |
| yn taeru (onid anffodus?) | |
| wrth ŵr y tŷ uchod ar frys, | |
| 'Mae'r drws trwm yn agor, | |
| 44 | mae cynddaredd y ci yn fawr [fel] braich cawr.' |
| Ciliais yn f'ôl yn ddisymwth | |
| i'r drws, a'r ci drewllyd ar f'ôl. | |
| Cerddais, nid ystyriais yn hir, | |
| 48 | wrth y mur, gwn i mi oeri, |
| ar hyd y gaer ddisglair hardd | |
| i alw ar yr em deg. | |
| Saethais saethau serch drwy'r mur | |
| 52 | at y ferch fain, cynnull poen. |
| Saethodd hi o'i bron loyw barod | |
| serch i'm cyfarch innau. | |
| Hyfryd oedd i mi, nid yw serch yn fy nigio, | |
| 56 | yr ochr arall i'r mur maen â'r ferch fain. |
| Cwynais, mynegais fy nicter, | |
| dybryd oedd, am ddrws Eiddig, | |
| dyn sy'n peri anffawd, a'i domenni, | |
| 60 | a'i glawdd sarrug a'i hen wraig a'i gi. |
| Er bod yr hen wraig, colli cyfathrach, | |
| a'r drws islaw'r neuadd a'r ci | |
| yn medru fy rhwystro, bardd ifanc dewr y dyffryn, | |
| 64 | rhag tai Eiddig a'i gartref, |
| mae Duw'n rhoi'r coed canghennog | |
| a'r maes yn rhydd i mi. | |