Tripheth nid ydyn' unrhyw,
Tri anfoddog serchog syw:
Dôr wichiennydd, drymwydd drom,
A gwrach wegilgrach gulgrom
A chi tom - o chotymid
Ei flew byddai lew o lid!
Mae'n amlwg bod y deunydd hwn i gyd yn berthnasol i 'Tri Phorthor
Eiddig', ond y cwestiwn yw ai olion hen draddodiad a oedd yn boblogaidd yn
amser Dafydd ap Gwilym yw'r rhain, ynteu ai'r cywydd hwn a rhai eraill tebyg
iddo oedd man cychwyn y Trioedd Serch? Tuedda Edwards (t. 38) at yr ail ateb;
un manylyn sy'n ategu ei farn yw'r gair llafarddrud yn
disgrifio'r ci yn y cywydd hwn ac yn fersiwn cynharaf y Trioedd Serch (gw.
nodyn ar l. 7 isod). Serch hynny, mae'n bosibl bod deunydd triawdol hyn
yn berthnasol i'r cywydd hwn, oherwydd fel y sylwodd R. Geraint Gruffydd (t.
171), mae'n bosibl bod y tri phorthor yn adlais o deitl y triawd 'Tri phorthawr
Gwaith Perllan Fangor' yn Nhrioedd Ynys Prydain (TYP rhif 60). Cynghanedd: sain 30 ll. (46%), traws 18 ll. (27%), croes 16 ll. (24%),
llusg 2 l. (3%).Ceir 50 o gopïau llawysgrif o'r gerdd hon, ond er gwaetha'r nifer
fawr mae'r rhain yn ymrannu'n ddau fersiwn sylfaenol, y naill yn ddeheuol a'r
llall yn ogleddol. Mae'n debyg mai Llyfr Wiliam Mathew oedd ffynhonnell y
fersiwn deheuol a geir yn Ll 6, pump o lawysgrifau Llywelyn Siôn, ac i
raddau yn Ll 53 yn llaw Jâms Dwnn (testun sy'n gyfuniad o'r ddau
fersiwn). Priodolir y gerdd i Fedo Brwynllys yn ogystal â DG yn y fersiwn
deheuol, ac efallai mai dyna pam na chododd John Davies gopi o LlWM yn Pen 49.
Gellir olrhain rhai o destunau y fersiwn gogleddol yn uniongyrchol i'r Vetustus
(H 26, Pen 49, Ll 120), ond mae o leiaf chwe chopi (Ba (P) 1573, C 7, CM 5, CM
23, M 148, M 161, ac efallai hefyd C 19 a Ll 14) sy'n annibynnol ar y Vetustus,
er yn debyg iawn iddo o ran testun. Y tebyg, felly, yw bod y rhain yn tarddu o
gynsail y Vetustus. Rhoddodd Parry y flaenoriaeth i fersiwn y Vetustus wrth
lunio testun GDG, ond mae modd gwella'r testun hwnnw mewn sawl man trwy ddilyn
fersiwn LlWM (gw. nodiadau isod ar linellau 3, 4, 5, 6, 7, 8, 14, 35, 39, 47,
58, 59-60, 61-2, a 63). 2. triphorth Cymerir mai
porth2 (GPC 2855),
'mynedfa', sydd yma, i'w ddeall mewn perthynas enidol â 'tri phorthor' yn
y llinell flaenorol. Posibilrwydd arall yw porth1 (GPC 2854), 'cynorthwywr', ac felly y'i deallwyd gan
Gwyn Thomas ac Alan Llwyd. 3. hwnt darlleniad y fersiwn deheuol;
ceir hwynt yn fersiwn y gogledd, efallai am fod
hwnt yn air deheuol (ond cofnodir hwynt yn ffurf ogleddol ar hwnt yn
GPC 1932). Cymh. 56.25. 4. trwch ym Ceir trwch fum (= fu ym) yn fersiwn y gogledd, ond mae'r
frawddeg enwol yn nodweddiadol o arddull DG. 5. dyungas Mae hwn yn seiliedig ar
dyngas, y darlleniad sydd â'r dystiolaeth gryfaf
drosto. Gan fod y ffurf honno'n ymddangos yn ddeusill, ychwanegwyd
i o flaen plas yn fersiwn y
gogledd, yn groes i gystrawen y cwpled ('Cyntaf ... porthor'). Dilynodd Parry
ddarlleniad Pen 49, dygngas, ond mae hwnnw'n amlwg yn
ymgais i wneud synnwyr o air a ymddangosai'n ddiystyr, ac mae'n debyg ei fod yn
tarddu o'r copi yn CM 5. Ystyr y gair cyfansawdd hwn yw 'yn cyfuno cas', sef y
tri phorthor. 6. parthai rodd Mae hyn yn seiliedig
ar ddarlleniad Llywelyn Siôn ( ceir parthe radd
yn Ll 6), a chymerir ei fod yn sylw eironig yn cyfeirio at 'groeso' y ci, sef
ei frath. Ar parthu yn yr ystyr 'dosbarthu' gw. GPC
2695. Ond ceir pyrth a'i rodd yn fersiwn y gogledd a
GDG, a dadleuodd Alan Llwyd (1981, 143) mai Eiddig sy'n porthi'r ci â
rhoddion o fwyd. 7. llwfrddrew llafarddrud darlleniad y
fersiwn deheuol (er mai llafyrddrud sydd yn Ll 6).
Dilynodd Parry fersiwn y gogledd, llafarlew llyfrlud,
ond mae'r ddau air cyfansawdd braidd yn anfoddhaol gan fod glew yn cael ei ailadrodd o fewn y llinell a bod
llwfr a glud yn gyfuniad annisgwyl. Cymerir mai
'llaith' yw ystyr llwfr yma (gw. 50.29n). Byddai ci
gwlyb yn neilltuol o ddrewllyd, ac mae awgrym o leithder yn yr ansoddair
mws yn ll. 46 isod. Sylwer bod y gair
llafarddrud yn disgrifio'r ci yn y triawd 'tri amhorth
serchawc' (gw. y dyfyniad yn y nodyn rhagarweiniol uchod). Rhaid anwybyddu'r
ddwy f at bwrpas y gynghanedd. 8. cynddrwg Ceir cawn ddrwg yn fersiwn y gogledd, a sen yn amrywiad ar sôn. 10. cydwr 'cymar, cyfaill', gw. GPC 670
a chymh. 162.5, 'Cydwr fry coedieir y fron' (am y ceiliog du), lle mae'r ystyr
rywiol yn amlwg. Cofier fod cyd yn digwydd yn ll. 61
o'r gerdd hon yn yr ystyr 'cyfathrach rywiol'. Tybed ai colyn y drws a olygir,
sef y darn a fyddai'n cadw swn? Ar y llaw arall, tybiai Alan Llwyd mai'r
pwynt yw bod y drws yn cadw'r ci yn effro. 14. addaw dydd Cefnogir y fersiwn
deheuol yma gan M 161 (er mai dau air sydd yno, a
ddaw). Ystyr dydd yma yw diwrnod marwolaeth, a'r
pwynt yw bod ei hafiechyd yn arwydd sicr bod ei marwolaeth yn agos. Ergyd debyg
sydd i ddarlleniad y Vetustus, daw ei dydd. 19. cynar Cofnodir y gair hwn yn GPC
778 ar sail geiriaduron yn unig, ac awgrymir mai gair geiriadurol ydyw yn
ôl pob tebyg. Mae'r esiampl hon yn ddigon i brofi bod y gair yn bodoli, a
gellir derbyn yr ystyr 'hwch' a roddir yng ngeiriaduron Wiliam Llyn a
John Davies. Yn ôl Ll 189 s.v. cunar, 'a sow that
hath had pigs more than once' yw hon. Darllenodd Parry cynnar, ond un n a geir yn y gair
yn gyson yn y llawysgrifau. Cymh. 62.26. 25-6. Y fersiwn deheuol yn unig sy'n cynnwys y cwpled
hwn, ac mae'r llinell gyntaf braidd yn garbwl ym mhob copi. 25. daw Ceir dawn gan Lywelyn Siôn ac yn Ll 6, a dyna a
dderbyniwyd yn GDG, ond mae'r ystyr yn wan iawn. Darlleniad Ll 6 yw hwn, ac fe
rydd synnwyr ardderchog yn yr ystyr 'gwestai', gw. GPC 906 a chymh.
dofraeth, 'cynhaliaeth', yn 7.16. Y pwynt yw bod y
bardd yn cyrraedd y ty gan ddisgwyl cael croeso. 33. ciY ffurf dreigledig a geir yn y
fersiwn deheuol (ac felly hefyd gaer), a gellir
cyfiawnhau hynny gan fod sangiad rhwng y ferf a'r goddrych. 35. rhois hwpCeir y gair cyfystyr
gwthiais yn fersiwn y gogledd, a dyna a dderbyniwyd yn
GDG. Mae blas llafar deheuol ar yr ymadrodd hwn i ni heddiw, ond nodir enghrau
o'r 15fed ganrif gan nifer o gywyddwyr gogleddol yn GPC 1932. 39. cul Ceir
coel yn fersiwn y gogledd, ond braidd yn amheus yw ailadrodd yr un gair ar
ddechrau dwy linell. Gan mai hunan-wawd sydd yma mae'r gair hwn yn ddigon addas
46. mws 'drewllyd' yw'r brif ystyr,
ond mae lleithder yn rhan ohoni hefyd, gw. GPC 2512 a nodyn ar
llwfrddrew yn ll. 7 uchod. 47.syniais darlleniad Llywelyn
Siôn (ond gellir cymryd mai dyma sydd y tu ôl i
soniais Ll 6). Mae'n sicr yn ddarlleniad anos, a doniolach, na
sefais y fersiwn gogleddol. Yr ystyr yw 'ystyried,
myfyrio'. 49.Diwygiad Parry yw I am GDG, ond
ceir ystyr debyg o ddilyn Ll 6, hed (= hyd)
am. 50. ymorol Gwan iawn yw tystiolaeth y
llsgrau dros ddarlleniad GDG, ymarail. Ond efallai y
dylid adfer ffurf wreiddiol y gair hwn, ymoralw (gw.
GPC 3796). 51. gywain Deilliaid y Vetustus yn
unig a ddiogelodd y darlleniad hwn. Ceir gywrain mewn
llsgrau eraill, darlleniad sy'n cryfhau'r gynghanedd ar draul y synnwyr. 54. i Pen 49 yw'r unig un o'r llsgrau
cynnar sy'n cynnwys yr arddodiad hwn, ond mae ei angen er mwyn yr ystyr, a
gellir cymryd nad yw'n bresennol mewn copïau eraill am fod y sillaf yn
cael ei cheseilio. 55-6. Yn y fersiwn deheuol yn unig y ceir y cwpled hwn.
Ceir yr un cwpled mewn rhai copïau o gerdd 55 (cymh. GDG 145.13-4),
ond nis cynhwyswyd yn y testun golygedig. 58. dihir Ll 6 yw'r unig lawysgrif
sy'n rhoi'r ffurf hon ('drwg, blin' gw. GPC 1008-9). Ceir
dir, 'angenrheidiol; enbyd' yn y lleill. Cymh.
dihiraf yn 34.3. 59-60.Yn y fersiwn deheuol yn unig y ceir y cwpled hwn,
ac mae'r ail linell yn debyg iawn i 62 yn y fersiwn gogleddol (gw. GDG).
Problem arall yw bod yr un odl mewn dau gwpled yn olynol fel y saif y testun
(er nad yw felly yn y tair llsgr. sy'n cynnwys y cwpled gan fod llinellau
gwahanol yn ei ddilyn). Y tebyg yw, felly, nad yw'r cwpled hwn yn y lle iawn yn
y testun. Ond ar y llaw arall ni ddisgwylid gair prin fel
damweinwr mewn cwpled ffug. Hon yw'r unig enghr. o'r gair a nodir yn GPC
886 (o gopi Ll 6), a rhoddir yr ystyr 'un sy'n peri anffawd neu anlwc'. 60. gwg Ceir
gawr yn y llinell gyfatebol yn y fersiwn gogleddol (GDG 80.60), a gellid
cymryd hwnnw fel yr ansoddair prin, 'llwyd', a geir unwaith yn Llyfr Taliesin
(gw. GPC 1386). 61-2. Testun y fersiwn deheuol a geir yma, sy'n dra
gwahanol i'r un gogleddol a ddilynwyd yn GDG. Fel hyn enwir y tri phorthor
gyda'i gilydd, ac o'u rhoi'n oddrych y frawddeg nid oes angen cymryd
Eiddig yn 64 yn sangiad. Ystyr côr yma yw beudy. 61. cyd Cyfeirir at y cyfle a gollwyd
i gael cyfathrach rywiol â'r ferch. 62. côrCymerir mai defnydd
trosiadol o'r ystyr 'llys' (gw. GPC 554-5) sydd yma, gan gyfeirio at brif
ystafell neu neuadd y ty. Ond sylwer fod y gair yn cael ei ddefnyddio
hefyd am safle anifail mewn beudy.63. glew farddwas glyn Dilynwyd fersiwn
y gogledd yn GDG, glud addas glyn (ond sylwer
mai glynn a geir yn y tri chopi uniongyrchol o'r
Vetustus).