llyma gywydd i dri phorthor Eiddig
1 Tri phorthor di gyfor dig
2 trafferth oedd tri phorth Eiddig
3 trefnwyd hwnt ym tra ofni
4 trwch ym gyvarfod ar tri
5 y kyntaf plas dyngas dig
6 parthe rodd porthor aiddig
7 ki glew llfr ddrew llavarddryg
8 kynddrwg son kynddeiriog syg
9 ar ail porthor ywr ddor ddig
10 wae i chydwr wychedig
11 trydydd gwnn baenydd benyd
12 a lydd ym gael bydd or byd
13 gwrach hainys ddolurys ddig
14 addaw dydd ddiwid Eiddig
23 dauthym echnos du nos dig
24 afrwyddwr i vro Eiddig
25 o radd a dawn ruddiav dioer
26 ymweld ag em wiwloer
29 naidawdd mynnawdd vy nodi
30 ki koch o dwlk moch i mi
31 rhoes hyrr ym yn rhy sarryg
32 rhoes vrath llawn yn rhawn yr hyg
33 kynhennawdd gair gawdd gi r gwyr
34 gabl em son gwbl om synnwyr
35 rhoes hwp ir ddor goror gawg
36 dderw hi aeth yn gynddairawg
39 kul awen wrid klywn y wrach
40 koelfann oedd waeth mewn kilfach
42 wrth wr y tri vry ar vrys
41 yn taery ponyd dyrys
43 mae r drymddor yn agori
44 mae n vawr braich kawr broch y ki
45 naidais yn swrth ym gwrthol
46 ar drws ar ki mws ym ol
37 gwaiddoedd mal siarad gwyddau
38 och ym o baiddais i chau
47 kilais ny vawr synnais i
48 gan y mur gwn ym oeri
49 hyd y gaer a hwdav gan
50 i ymarail am airian
51 saethais drwy r mvr gur gywrain
52 saethau serch at verch vain
53 saethoedd hon oi gloewfronn glav
54 serch ym annerch a minnau
55 digryf oeddym o sym serch
56 a mainir yn ym annerch
57 kwynais manegais y nig
58 a dir oedd rhag dor aiddig
59 damwainwr au domenni
60 au wrych gwg au wrach au gi
15 bai kyd y nos be kaid nef
16 a dengnos wrach ddi dangnef
17 vn awr ny gwal chwainwal chwyrn
18 ny chwsg nid iach i hesgyrn
19 kynar nychlyd yn kwynawd
20 i chlvn ddrwg i llvn au llaw
21 a dolur yny daulin
22 au phalfais yn glais a glin
61 kyd gall yw r wrach kyd golli
62 ar ddor islawr kor ar ki
63 vy lleas glew varddwas glynn
64 i dai Eiddig au dyddyn
65 yn rhydd mae duw yn rhoddi
66 koed gwyrddlaes a maes i mi
Bedo Brwynllus ai kant