1 Triphorthor dygyfor dig
2 Trafferth oedd triphorth eiddig
3 Trefnwyd hwynt i'm tra ofni
4 Trwch fvm gyfarfod ar tri
5 Cyntaf i blas dygngas dig
6 Pyrth ai rodd porthor eiddig
7 Ci glew llafarlew llwfrlud
8 Cawn ddrwg cynddeiriog svd
9 Ar ail porthor yw'r ddor ddig
10 wae i chydwr wichiedig
11 Trydydd gwn bevnydd benyd
12 Am llvdd i gael bvdd or byd
13 [142v] Gwrach heinvs ddolvrvs ddig
14 Daw i dydd diwyd eiddig
15 Pe cyd y nos pe caid nef
16 A dengnos wrach ddidangnef
17 Vnawr mewn gwal chwenial chwyrn
18 Ni chwsc am nad iach escyrn
19 cynar nychlyd yn cwynaw
20 I chlvn drwg i llvn ai llaw
21 A dolvr oi dwy elin
22 Ai ffalfais yn glais ai glin
23 Devthym echnos devnos dig
24 Afrwyddwr i fro eiddig
27 Carchar bardd a mi'n cyrchv
28 Yn ddigyngor y ddor ddv
29 Neidiodd mynnodd fy nodi
30 ci coch o dwlk moch i mi
31 Rhoes hyrr i'm yn rhy sarrvg
32 Rhoes frath llawn yn rhawn yr hvg
33 cynhiniawdd caer gawdd ci'r gwr
34 [143r] cabl am sym cwbl om simmwr
35 gwthiais y ddor cogor cawg
36 dderw hi aeth yn gynddeiriawg
37 gwaeddodd fel siarad gwyddav
38 Och i'm o beiddiais i chav
39 coel awen wrid clywn y wrach
40 coelfain oedd waeth mewn cilfach
41 Yn taerv penyd dyrys
42 wrth wr y ty fry ar frys
43 Mae'r dromddor yn agori
44 Mae'n fawr braich cawr broch y ci
45 ciliais yn swrth im gwrthol
46 ir drws ar ci mws im ol
47 Rhodiais ni hir sefais i
48 gan y mvr gwnn i'm oeri
49 O ddiar y gaer loywglaer lan
50 I 'morol am em eirian
51 Saethais drwy'r mvr gvr gywain
52 Saethav serch at y ferch fain
53 Saethodd hon oi gloywfron glav
54 Serch i 'mannerch a minnav
57 [143v] Cwynais mynegais fy nig
58 Dir oedd i'm rhag dor eiddig
61 Cyd gallai 'r gwr cydgolli
60 Ai wrych gawr ai wrach ai gi
63 fy llvddias glvd addas glynn
64 I dai eiddig ai dyddyn
65 Rhydd y mae Duw yn rhoddi
66 coed briglaes a maes i mi
Da'ap Glm'