Kowydd i dri fforthor eiddig o waith dd ap glm
1 Tri fforthor digyfor dig
2 trafferth oedd tri fforth eiddig
3 traefnwyd hwynt im tra ofni
4 trwch fvm gyfarfod ar tri
5 cyntaf i blas dygyngas dig
6 pyrth ai rodd porthor eiddig
7 ci glew llafarlew llwfrlud
8 cawn ddrwg senn cynddeiriog sud
9 ar ail porthor ywr ddor ddig
10 wae i chw chydwr wichiedig
11 trydydd gwn beunydd benyd
12 am lludd i gael budd or byd
13 gwrach heinus ddolurus ddig
14 daw i dydd diwyd eiddig
15 [227] pe cyd y nos pe caid nef
16 a deng nos wrach ddidangnef
17 un awr mewn gwal chweinial chwyrn
18 ni chwsg am nad iach esgyrn
19 cynxar nychlyed yn cwynaw
20 i chlun drwg i llun ai llaw
21 a dolur oi dwy elin
22 ai ffalfais yn glais ai glin
23 deythym echnos dunos dig
24 afrwyddwr i fro eiddig
27 carchar bardd a mi/n/ cyrchu
28 yn ddigyngor y ddor ddu
29 neidiodd mynnodd fy nodi
30 ci coch o dwlk moch i mi
31 rhoes hyrr ym yn rhy sarrug
32 rhoes frath llawn yn rhawn yr hug
33 cynhinniawdd caer gawdd ci/r/ gwr
34 cabl am sym cwbl om simwr
35 gwthiais y ddor cogor cawg
36 dderw hi aath aeth yn gynddeiriawg
37 gwaeddodd fal siarad gwyddau
38 och ym o beiddiais i chau
39 coel awen wrid clown y wrach
40 coelfain oedd waeth mewn eilfach
41 yn tayru penyd dyrys
42 wrth wr y ty fry ar frys
43 [228] mae/r/ dromddor yn egori
44 mae/n/ fawr braich cawr broch y ci
45 ciliais yn swrth im gwrthol
46 ir drws ar ci mws im ol
47 rhodiais ni hir sefais i
48 gan y mur gwn ym oei oeri
49 o ddiar y gaer loywglaer lan
50 i morol am em eirian
51 seythais drwy/r/ mur gur gywain
52 saythau serch at y ferch fain
53 saythodd hon oi gloywfron glau
54 serch i manerch a minau
57 cwynais manegais fy nig
58 dir oedd ym rhag dor eiddig
61 cyd gallai/r/ gwr cydgolli
60 ai wrych gawr ai wrach ai gi
63 fy llyddias glyd addas glyn
64 i dai eiddig ai dyddyn
65 rhydd i mae duw yn rhoddi
66 coed briglaes a maes iy mi
dauid ap gwylym ai kant