{ko y 3 fforthor Eiddig y Ci y ddor ar wrâch}
1 Tri phorthor dygyvor dig
2 trapherth oedd triphorth eiddig
3 trefnwyd wynt i'm tra ofni
4 trwch vvm gyvarvod a'r tri
5 cynta iblas dyngas dig
6 pyrth ai rodd porthor eiddig
7 ci glew llafarlew llwfrlud
8 cawn ddrwg senn cynddeiriog sud
9 ar ail porthor yw'r ddor ddig
10 wae i chydwr wichiedig
11 [398] trydydd gwn bevnydd benyd
12 a'm lludd i gael budd o'r byd
13 gwrach heinus ddolurus ddig
14 ddaw i dydd ddiwyd eiddig
15 pe'i cyd y nos pe'i caid nef
16 a dengnos wrach hyd angnef
17 vn awr mewn gwal chweinial chwyrn
18 ni chwsg am nad iach esgyrn
19 cvnar nychled yn cwynaw
20 ichlvn ddrwg i llvn ai llaw
21 a dolur o'i dau elin
22 ai phalvais yn glais ai glin
23 deuthvm echnos dvnos dig
24 afrwyddwr i fro eiddig
27 carchar bardd a mi'n cyrchu
28 ynddigyngor y ddor ddu
29 neidiodd mynnodd vy nodi
30 ci coch o dwlc moch i mi
31 rhoes hyrr ym yn dra sarrug
32 rhoes vrath llawn yn rhawn yr hug
33 cynhynniawdd caergawdd ci'r gwr
34 cabl a'm sym cwbl o'm simwr
35 gwthiais y ddor cogor cawg
36 dderw aeth yn gynddeiriawg
37 [399] gwaeddodd val siarad gwyddav
38 och ym o beiddiwn i chav
39 coel awen wrid clywn y wrach
40 coelvain oedd waeth mewn cilvach
41 yn taeru penyd dyrys
42 wrth wr y tuy vry ar vrys
43 mae'r dromddor yn egori
44 mawr braich y cawr broch yw'r ci
45 ciliais yn swrth i'm gwrthol
46 i'r drws a'r ci mws i'm ol
47 rhedais ni hir sefais i
48 gan y mur gwn ym oeri
49 o ddiar y gaer loywgaer lan
50 i ymorol am eirian
51 seuthais drwy'r mur gur gywain
52 saethae serch at y verch vain
53 saethodd honn oi gloywvron glau
54 serch ymannerch a minau
57 cwynais mynegais y nig
58 dig oer ym rhac dor eiddig
61 cyd gallai'r gwr cyd golli
60 ai wrych gawr ai wrach ai gi
63 vy lluddias glyd addas glynn
64 i duy eiddig ai dyddyn
65 rhydd y mae Duw yn rhoddi
66 coed brig laes a maes i mi
Dauid ap Gwilim