{I dri phorthor Eiddig}
1 Tri phorthor dygyfor dig
2 trapherth oedd tri phorth eiddig
3 Trefnwyd hwynt im tra ofni
4 trwch fum gyfarfod â'r tri
5 Cyntaf i blas dyn-gas dig
6 pyrth a'i rodd porthor eiddi
7 Ci glew llafar-lew llwfrlud
8 Cawn ddrwg sonn cynddeiriog sud
9 A'r ail porthor yw'r ddor-ddig
10 Mae ei chydwr wichiedig
11 Trydydd gwnn beunydd benyd
12 a'm lludd i gael budd o'r byd
13 Gwrach heinus ddolurus ddig
14 daw wi dydd diwyd eiddig
15 Pe cyd y nos pe caid nef
16 a dengnos wrach ddidangnef
17 vn awr mewn gwâl chweinwal chwyrn
18 ni chwsc am nad iach escyrn
19 Cynar nychled yn cwynaw
20 ei chlun ddrwg ei llun, a'i llaw
21 A dolur o'i dau elin
22 ai phalfais yn glais ai glin
23 Deuthum echnos du-nos dig
24 A frwyddwr i fro eiddig
27 Carchar bardd a mi 'n cyrchu
28 Yn ddigyngor y ddor-ddu
29 Neidiodd mynnodd fy nodi
30 Ci coch o dwlc moch i mi
31 Rhoes hyrr im yn rhy sarru?g
32 Rhoes frath llawn yn rhawn 'r hug
33 [18v] Cynhynnawdd caer Cawdd ci'r gwr
34 Cabl am sym cwbl o'm simwr
35 Gwthiais y ddor cogor cawg
36 dderw a aeth yn gynddeiriawg
37 Gwaeddodd fel siarad gwyddau
38 Och i'm o beiddiais ei chau
39 Coel awen wrid clywn y wrach
40 Coelfain oedd waeth mewn cilfach
41 Yn taeru penyd dyrys
42 Wrth wr y ty fry ar frys
43 Mae 'r drom-ddor yn agori
44 mae'n fawr braich cawr, broch y ci
45 Ciliais yn swrth i'm gwrthol
46 i'r drws ar ci mws i'm ôl
47 Rhedais ni hir sefais i
48 gan y mur gwn ymoeri
49 oddi ar y gaer loew-glaer lan
50 i 'morol am em e i?rian
51 Seithais drwy'r mur gur gywain
52 saethau serch at y ferch fain
53 Saethodd honn o'i gloew-fronn glau
54 serch ymannerch a minnau
57 Cwynais mynegais fy nig
58 dir oedd i'm rhag dor eiddig
61 Cyd gallai 'r gwr cyd golli
60 Ai wrych gawr, ai wrach, ai gi
63 fy lluddias glyd addas glynn
64 I dai eiddig ai dyddyn
65 Rhydd y mae duw'n rhoddi
66 Coed brig laes a maes i mi
dd' ap Gwilym
Nodiadau
19 Ychwanegiad gan law arall, wrth ymyl y llinell.
24 Ychwanegiad gan law arall, wrth ymyl y llinell.
46 ymoeri Ychwanegwyd llinell i wahanu y ddau air.