1 Tri phorthor dygyfor dig
2 trafferth oydd tri fforth eiddig
3 trefnwyd wynt im tra ofni
4 trwch fvm gyfarfod ar tri
5 kynta i blas dyngas dig
6 pyrth ai rodd porthor eiddig
7 [406] ki glew llafarlew llwfrlvd
8 lawn ddrwg senn kynddeiriog svd
9 ar ail porthor ywrddor ddig
10 way i chwdwr wichiedig
11 trydydd gwnn bevnydd bevnydd benyd
12 am llvdd i gael bvdd or byd
13 gwrach heinys ddolvrys ddig
14 ddaw i dydd ddiwyd eiddig
15 pei kyd y nos pei kaid nef
16 a dengawr wrach hyd angef
17 vn awr mewn gwal chweinial chwyrn
18 ni chwsg am nad iach esgyrn
19 keinach nychlyd yn kwynaw
20 i chlvn ddrwg i llvn ai llaw
21 a dolvr oi dav elin
22 ai ffalfais yn glais ai glin
23 doythym echnos dvnos dig
24 afwyddwr i fro eiddig
27 karchar bardd a mi /n/ kyrchv
28 yn ddi gyngor y ddor ddv
29 neidiodd mynnodd fy nodi
30 ki koch o dy moch i mi
31 rhoys havr ym yn dra sarrvg
32 rhoys frath llawn yn rhawn yr hvg
33 {kynhyniawdd kaer gawdd ki /r/ gwr
34 kabl am sym kwbl om simwr}
35 [407] gwthiais y ddor kogor kawg
36 dderw aeth yn gynddeiriawg
37 gwayddodd fal siarad gwyddav
38 och ym o beiddiais i chav
39 koyl awen wrid klown y wrach
40 koylfain oydd waeth mewn kilfach
41 yn tayrv penyd dyrys
42 wrth wr y ty fry ar frys
43 may /r/ ddromddor yn agori
44 may /r/ fawr braych kawr broch y ki
45 neidiais yn swrth im gwrthol
46 ir drws ar ki mws im ol
47 rhedais ni hir sefais i
48 gann y mvr gwnn ym oiri
49 o ddiar y gaer loywglaer lan
50 i ymorol am eirian
51 sevthais drwy /r/ mvr gvr gowrain
52 saythav serch at y ferch fain
53 saythodd honn oi gloywfron glav
54 serch ym annerch i minnav
57 kwynais mynegais y nig
58 dvoyr oydd garr dor eiddig
61 bid y gwr oll ar golli
60 ai wrych gawr ai wrach ai gi
63 fy llvddias glvd addas glynn
64 i dai eiddig ai dyddyn
65 [408] rhwydd i may dvw yn rhoddi
66 koyd briglaes a maes i mi
davydd ap gwilim ai kant