M 148, 405–8  
 
1    Tri phorthor dygyfor dig
2    trafferth oydd tri fforth eiddig
3    trefnwyd wynt im tra ofni
4    trwch fvm gyfarfod ar tri
5    kynta i blas dyngas dig
6    pyrth ai rodd porthor eiddig
7    [406] ki glew llafarlew llwfrlvd
8    lawn ddrwg senn kynddeiriog svd
9    ar ail porthor ywrddor ddig
10    way i chwdwr wichiedig
11    trydydd gwnn bevnydd bevnydd benyd
12    am llvdd i gael bvdd or byd
13    gwrach heinys ddolvrys ddig
14    ddaw i dydd ddiwyd eiddig
15    pei kyd y nos pei kaid nef
16    a dengawr wrach hyd angef
17    vn awr mewn gwal chweinial chwyrn
18    ni chwsg am nad iach esgyrn
19    keinach nychlyd yn kwynaw
20    i chlvn ddrwg i llvn ai llaw
21    a dolvr oi dav elin
22    ai ffalfais yn glais ai glin
23    doythym echnos dvnos dig
24    afwyddwr i fro eiddig
27    karchar bardd a mi /n/ kyrchv
28    yn ddi gyngor y ddor ddv
29    neidiodd mynnodd fy nodi
30    ki koch o dy moch i mi
31    rhoys havr ym yn dra sarrvg
32    rhoys frath llawn yn rhawn yr hvg
33    {kynhyniawdd kaer gawdd ki /r/ gwr
34    kabl am sym kwbl om simwr}
35    [407] gwthiais y ddor kogor kawg
36    dderw aeth yn gynddeiriawg
37    gwayddodd fal siarad gwyddav
38    och ym o beiddiais i chav
39    koyl awen wrid klown y wrach
40    koylfain oydd waeth mewn kilfach
41    yn tayrv penyd dyrys
42    wrth wr y ty fry ar frys
43    may /r/ ddromddor yn agori
44    may /r/ fawr braych kawr broch y ki
45    neidiais yn swrth im gwrthol
46    ir drws ar ki mws im ol
47    rhedais ni hir sefais i
48    gann y mvr gwnn ym oiri
49    o ddiar y gaer loywglaer lan
50    i ymorol am eirian
51    sevthais drwy /r/ mvr gvr gowrain
52    saythav serch at y ferch fain
53    saythodd honn oi gloywfron glav
54    serch ym annerch i minnav
57    kwynais mynegais y nig
58    dvoyr oydd garr dor eiddig
61    bid y gwr oll ar golli
60    ai wrych gawr ai wrach ai gi
63    fy llvddias glvd addas glynn
64    i dai eiddig ai dyddyn
65    [408] rhwydd i may dvw yn rhoddi
66    koyd briglaes a maes i mi
 
    davydd ap gwilim ai kant