| Y Wawr | |
| Uchel yr wyf yn ochi, | |
| Echnos y bu hirnos hi, | |
| A bernos, medd y beirniad, | |
| 4 | A bair gwen heb un gair gwad. |
| Echnos, dyn oleudlos ŵyl, | |
| Wythnos fu unnos, f'annwyl. | |
| Neithiwyr y bûm mewn uthr bwyll, | |
| 8 | Nyf gain, gyda nef gannwyll, |
| Yn mynnu tâl am anhun, | |
| Yn aml barch yn emyl bun. | |
| Pan oedd ffyrfaf fy ngafael | |
| 12 | A gorau 'mhwynt, gwrm ei hael, |
| Uchaf len, awch aflonydd, | |
| Och wir Dduw, nacha wawr ddydd. | |
| 'Cyfod', eb y gwen lenloyw, | |
| 16 | 'Cêl hyn; wel dyna'r coel hoyw. |
| Deigr ynial dy garennydd, | |
| Dos i ddiawl; wel diso ddydd.' | |
| 'Hirfun dda hwyrfain ddiell, | |
| 20 | Hyn nid gwir; hynny neud gwell, |
| Lleuad a roes Duw Llywydd, | |
| A sêr yn ei chylch y sydd. | |
| Hyn o dodaf henw didyb, | |
| 24 | Honno y sydd dydd o dyb.' |
| 'Gwawr honnaid, pei gwir hynny, | |
| Paham y cân y frân fry?' | |
| 'Pryfed y sydd yn profi, | |
| 28 | Lluddio ei hun, ei lladd hi.' |
| 'Mae ci dan llef y dref draw | |
| Ag eraill yn ymguraw.' | |
| 'Coelia fanag yn agos, | |
| 32 | Cyni a wna cŵn y nos.' |
| 'Paid â'th esgusawd wawdwas, | |
| Pell boen a fynaig pwyll bas. | |
| Wrth gael taith, anrhaith unrhyw, | |
| 36 | Antur i'th ddydd, anterth yw. |
| Cyfod, er Crist, yn ddistaw, | |
| Ac agor y dromddor draw. | |
| Rhyfras camau dy ddeudroed, | |
| 40 | Rhydaer yw'r cŵn, rhed i'r coed.' |
| 'Ochan! Nid pell y gelli, | |
| A chynt wyf finnau no chi. | |
| Ni'm gwŷl dyn ffel, ni'm delir, | |
| 44 | O rhan Duw, ar hyn o dir.' |
| 'Dywaid hyn, fardd diwyd da, | |
| Er Duw ym, or doi yma.' | |
| 'Deuaf, mi yw dy eos, | |
| 48 | Diau, 'y nyn, o daw nos.' |