Y Wawr
Rwy'n ochneidio'n uchel,
bu echnos yn noson hir,
ac mae'r ferch wen yn peri i'r nos fod yn fyr
4 heb ddim amheuaeth, yn ôl y dyn hyddysg.
Echnos bu un noson fel wythnos,
merch fwyn, olau a phert, f'anwylyd.
Bûm mewn cyflwr syfrdanol neithiwr
8 gyda'r un sydd fel cannwyll y nefoedd, Nyf hardd,
yn mynnu cael gwobr am ddiffyg cwsg,
yn cael parch mawr wrth ochr merch.
Pan oeddwn yn gafael ynddi dynnaf
12 ac yn fwyaf dedwydd (tywyll oedd ei hael),
llen uchaf, chwant anniwall,
och wir Dduw, dyna'r dydd yn gwawrio.
'Cwyd', meddai'r ferch â'r fantell loyw,
16 'cuddia hyn; dyna'r arwydd clir.
Mae dy gariad [yn achosi] dagrau gofidus,
cer i'r diawl; dyna'r dydd i lawr acw.'
'Y ferch dal dda, dyner a main, ddi-fai,
20 nid yw hynny'n wir; mae hyn yn well,
y lleuad a roddodd yr Arglwydd Dduw,
a sêr sydd yna o'i chwmpas.
Os rhoddaf i hyn ei enw dilys,
24 honno yn dy dyb di yw'r dydd.'
'Gwawr amlwg, petai hynny'n wir,
pam mae'r frân yn canu uchod?'
'Pryfed sy'n ceisio ei lladd hi,
28 gan rwystro ei chwsg.'
'Mae ci y fferm draw
yn ymladd ag eraill dan gyfarth.'
'Coelia ddatganiad yn agos [atat],
32 cwn y nos sy'n brwydro.'
'Gad dy esgus, fardd,
mae synnwyr arwynebol yn datgan poen hir.
Mentra allan ar daith i'th frwydr
36 megis ysbeilio, mae'n fore.
Cwyd yn dawel, er mwyn Crist,
ac agor y drws trwm acw.
Mawr iawn yw camau dy draed,
40 ffyrnig iawn yw'r cwn, rheda i'r coed!'
'Och! Nid yw'r llwyn yn bell,
a chyflymach ydw i nag unrhyw gi.
Ni fydd dyn gwyliadwrus yn fy ngweld, ni chaf fy nal,
44 os myn Duw, ar hyn o dir.'
'Dywed hyn wrthyf fi, fardd da a ffyddlon,
er mwyn Duw, os doi di yma eto.'
'Dof, fi yw dy eos,
48 yn sicr, fy nghariad, os daw nos.'