| Y Wawr | |
| Rwy'n ochneidio'n uchel, | |
| bu echnos yn noson hir, | |
| ac mae'r ferch wen yn peri i'r nos fod yn fyr | |
| 4 | heb ddim amheuaeth, yn ôl y dyn hyddysg. |
| Echnos bu un noson fel wythnos, | |
| merch fwyn, olau a phert, f'anwylyd. | |
| Bûm mewn cyflwr syfrdanol neithiwr | |
| 8 | gyda'r un sydd fel cannwyll y nefoedd, Nyf hardd, |
| yn mynnu cael gwobr am ddiffyg cwsg, | |
| yn cael parch mawr wrth ochr merch. | |
| Pan oeddwn yn gafael ynddi dynnaf | |
| 12 | ac yn fwyaf dedwydd (tywyll oedd ei hael), |
| llen uchaf, chwant anniwall, | |
| och wir Dduw, dyna'r dydd yn gwawrio. | |
| 'Cwyd', meddai'r ferch â'r fantell loyw, | |
| 16 | 'cuddia hyn; dyna'r arwydd clir. |
| Mae dy gariad [yn achosi] dagrau gofidus, | |
| cer i'r diawl; dyna'r dydd i lawr acw.' | |
| 'Y ferch dal dda, dyner a main, ddi-fai, | |
| 20 | nid yw hynny'n wir; mae hyn yn well, |
| y lleuad a roddodd yr Arglwydd Dduw, | |
| a sêr sydd yna o'i chwmpas. | |
| Os rhoddaf i hyn ei enw dilys, | |
| 24 | honno yn dy dyb di yw'r dydd.' |
| 'Gwawr amlwg, petai hynny'n wir, | |
| pam mae'r frân yn canu uchod?' | |
| 'Pryfed sy'n ceisio ei lladd hi, | |
| 28 | gan rwystro ei chwsg.' |
| 'Mae ci y fferm draw | |
| yn ymladd ag eraill dan gyfarth.' | |
| 'Coelia ddatganiad yn agos [atat], | |
| 32 | cŵn y nos sy'n brwydro.' |
| 'Gad dy esgus, fardd, | |
| mae synnwyr arwynebol yn datgan poen hir. | |
| Mentra allan ar daith i'th frwydr | |
| 36 | megis ysbeilio, mae'n fore. |
| Cwyd yn dawel, er mwyn Crist, | |
| ac agor y drws trwm acw. | |
| Mawr iawn yw camau dy draed, | |
| 40 | ffyrnig iawn yw'r cŵn, rheda i'r coed!' |
| 'Och! Nid yw'r llwyn yn bell, | |
| a chyflymach ydw i nag unrhyw gi. | |
| Ni fydd dyn gwyliadwrus yn fy ngweld, ni chaf fy nal, | |
| 44 | os myn Duw, ar hyn o dir.' |
| 'Dywed hyn wrthyf fi, fardd da a ffyddlon, | |
| er mwyn Duw, os doi di yma eto.' | |
| 'Dof, fi yw dy eos, | |
| 48 | yn sicr, fy nghariad, os daw nos.' |