GDG 13
Daliai Llywelyn ap Gwilym swydd cwnstabl Castellnewydd Emlyn o dan yr Arglwydd Gilbert Talbot, fel y dengys y llw o ffyddlondeb a dyngodd i'r Tywysog Du yn Awst 1343. Gwnaed arolwg o gyflwr y castell yr un adeg, a nodwyd bod angen gwario £340 i'w atgyweirio (gw. D. J. Bowen, 1966, 63). Rhoed arglwyddiaeth Emlyn i Richard de la Bere yn 1346 yn sgil marwolaeth Talbot, ac yn 1347 gorchmynnwyd i de la Bere atgyweirio'r castell. Mae'n bosibl bod Llywelyn wedi colli'i swydd yr adeg honno oherwydd ei esgeulustod, neu oherwydd polisi'r Tywysog nad oedd Cymro i fod yn gwnstabl castell ar unrhyw delerau (gw. D. J. Bowen, 1994–5, 368). Dywedir yn glir yn y farwnad hon i Lywelyn gael ei lofruddio, a hynny gan 'gyllell faelereg', h.y. gan leiddiad wedi'i hurio. Mae'n demtasiwn tybio bod a wnelo swydd y cwnstabl â'r llofruddiaeth, ac mai yn 1346 neu'n fuan wedyn y cafodd Llywelyn ei ladd. Ond cofier fod Llywelyn yn frawd-yng-nghyfraith i Syr Rhys ap Gruffudd (gw. Rhagymadrodd), un o ddynion mwyaf pwerus de Cymru ar y pryd. Oni fyddai cefnogaeth hwnnw'n ddigon i'w amddiffyn rhag gelynion gwleidyddol? A phe bai Llywelyn wedi'i lofruddio gan yr Eingl-Normaniaid, oni ddisgwylid elfen o chwerwder hiliol yn y farwnad hon? Gan nad oes sôn am alar ceraint Llywelyn yma chwaith, mae'n bosibl mai yn sgil anghydfod teuluol y cafodd ei ladd, fel yr awgrymodd D. J. Bowen (1994–5, 368).
Mae dial yn thema bwysig yn y gerdd, a chyfeirir ddwywaith at y ddihareb, 'A laddo a leddir.' Ac efallai fod arwyddocâd arbennig yn yr hen derm cyfreithiol dygngoll a ddefnyddir ddwywaith yn y gerdd (38, 70; gw. nodyn 38 isod). Ystyr hwnnw yng Nghyfraith Hywel oedd sefyllfa lle byddai cenedl yn colli aelod heb gael iawndal amdano. Wrth gwrs, ni weithredid Cyfraith Hywel mewn achos o'r fath erbyn y cyfnod hwnnw, ac ni ellid disgwyl cael iawndal yn ôl hen drefn galanas, ond efallai mai amcan cyfeirio ati fel hyn oedd awgrymu mai'r unig opsiwn a oedd yn agored i genedl Llywelyn bellach oedd dial ar y llofrudd. Ar themâu cyfreithiol yn y gerdd gw. ymhellach Sara Elin Roberts, 'Dafydd ap Gwilym, ei Ewythr a'r Gyfraith', LlC 28 (2005), 100–114.
Gellir adnabod tri fersiwn sylfaenol o'r gerdd hon yn y llawysgrifau. Y cynharaf yw'r un a geid yn Llyfr Gwyn Hergest ac a ddiogelwyd mewn tri chopi, Pen 49, Wy 2, a LlGC 6209 (un o lawysgrifau Edward Lhuyd). Fersiwn tebyg iawn i hwnnw, er yn amlwg yn annibynnol, yw'r un a geir mewn tair o lawysgrifau Llywelyn Siôn, ac a ddeilliai efallai o Lyfr Wiliam Mathew. Mae'r trydydd fersiwn i'w gael mewn llawysgrifau gogleddol o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, sef H 26, M 146 (hanner cyntaf y gerdd yn unig) a M 212. O ran cyfleustra, a chan fod y ddau fersiwn arall yn tarddu o'r de, cyfeirir at hwn isod fel fersiwn y gogledd, er ei fod i'w gael yn ddiweddarach yn BL 14890 o eiddo Iago ab Dewi ac yn LlGC 6209 (copi a wnaed cyn yr un sy'n deillio o LlGH). Mae'r fersiwn hwn yn bur wahanol i'r ddau arall o ran trefn yr englynion ac o ran darlleniadau, ac mae lle i gredu ei fod wedi'i drosglwyddo ar lafar, a hynny am beth amser gan fod trefn yr englynion yn amrywio ychydig rhwng llawysgrifau'r fersiwn.
Cyfres o bymtheg ar hugain o englynion yw'r gerdd hon, oll yn englynion unodl union heblaw tri englyn proest. Tybiai Parry (GDG 447) fod yn rhaid i'r englynion mewn gosteg fod yn gysylltiedig â'i gilydd, pa un ai trwy eu canu'n unodl, neu trwy ddechrau pob pennill â'r un gair, neu trwy eu cysylltu â chyrch-gymeriad. Gan nad yw hynny'n wir am yr englynion hyn fel y'u ceir yn y llawysgrifau, aeth Parry ati i'w had-drefnu'n unol â'r rheol dybiedig hon. Mae trefn yr englynion yn nhestun GDG yn bur wahanol, felly, i'r hyn a geir yn y llawysgrifau. Ni ddilynwyd Parry yn hyn o beth, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, er bod y term 'gosteg' yn cael ei ddefnyddio'n benodol am gyfres gysylltiedig o englynion, nid yw'n wir bod englynion wedi'u cysylltu yn y fath fodd bob amser (gw. CD 296). Mae eithriadau o gyfnod Beirdd y Tywysogion (e.e. gan Gynddelw, CBT III, rhif 8) ac o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (e.e. 'Englynion Marwnad Goronwy Fychan' gan Ruffudd ap Maredudd, GGM 1, rhif 7). Ac er bod dyfeisiau'n cysylltu'r rhan fwyaf o gyfresi englynion Dafydd ap Gwilym, nid ymddengys ei fod yn dilyn rheol gaeth yn hynny o beth. Er enghraifft, er bod y rhan fwyaf o 'Englynion yr Offeren' (rhif 2) yn unodl, torrir y cyswllt hwnnw yn y ddau englyn olaf. Yn y gerdd debycaf i hon, 'I'r Grog o Gaer' (rhif 1), er bod pob englyn yn rhan o ryw gyfres unodl, ni cheir cyswllt o unrhyw fath rhwng englynion lle bo'r odl yn newid (gw. Owen, 1995, 43–5). Ac nid oes cyswllt o fath yn y byd rhwng y pedwar englyn yn 'Englynion y Cusan', rhif 84. Yr ail reswm dros wrthod ad-drefniant GDG yw nad yw'n llwyddo i gysylltu'r holl englynion yn foddhaol o bell ffordd. Mae cysylltiad cadarn rhwng yr wyth englyn cyntaf gan eu bod yn unodl ac yn ailadrodd y gair thematig mud, ond y maent felly yn y llsgrau fodd bynnag. Mae'r chwe englyn nesaf yn gysylltiedig trwy ailadrodd Gwae ar ddechrau pob un (dyfais sydd hefyd yn eu clymu wrth yr olaf o'r gyfres unodl), ac unwaith eto maent felly yn y llsgrau. O hynny ymlaen mae'r cysylltiadau yn nhestun GDG yn llawer mwy tenau. Cymeriad llythrennol sydd i fod yn cysylltu'r pedwar englyn nesaf a rhai eraill yn nes ymlaen, ond ni ddefnyddir y ddyfais honno i gysylltu englynion mewn cerddi eraill. Mae rhai o'r enghreifftiau o gyrch-gymeriad tybiedig yn wan iawn, e.e. gwedy (GDG 13. 92/3), gwae (100/101), ac yn enwedig wnêl (103/106). Am esiampl o gyrch-gymeriad dilys yng ngwaith Dafydd gw. yr englynion ar ddechrau 'Marwnad Angharad' (rhif 9), lle mae diwedd pob englyn yn cysylltu'n uniongyrchol â dechrau'r un nesaf. Dim ond un cyrch-gymeriad o'r fath a geir yn y gerdd hon, sef yr un rhwng ŵyl ac wylais, ac mae hwnnw yn y llsgrau fodd bynnag (120–1 yn y testun hwn). Ac hyd yn oed a derbyn y cysylltiadau gwan hyn, ni lwyddwyd i gysylltu pob englyn, a gosododd Parry resi o sêr mewn pedwar man lle y tybiai fod englynion ar goll.
Sylwodd Parry (GDG 447) mai 'cymysglyd iawn' yw'r englynion yn y llsgrau, fel petai hynny'n rheswm dros roi trefn newydd arnynt. Ond mewn gwirionedd dwy drefn sydd yn y bôn, y naill yn fersiynau LlGH a Llywelyn Siôn (gydag ychydig o wahaniaethau rhyngddynt), a'r llall yn fersiwn y gogledd. Ac mae'r ffaith mai ar ôl y gyfres 'Gwae fi' y mae'r rhain yn gwahaniaethu'n bennaf yn awgrymu nad oedd cysylltiadau clòs a fyddai'n diogelu trefn yr englynion yng ngweddill y gerdd. Gan fod fersiynau LlGH a Llywelyn Siôn yn annibynnol ar ei gilydd ac eto'n cytuno yn y bôn, eu testunau hwy sydd fwyaf tebyg o adlewyrchu trefn wreiddiol y gerdd. Dilynwyd trefn LlGH yn y testun golygedig, gan ychwanegu englyn a geir yn fersiwn y gogledd yn unig (65–8), a chan symud yr englyn 'Gwae fi fod elw clod' (29–32) i ddiwedd y gyfres unodl er mwyn ffurfio cyswllt rhyngddi a'r gyfres nesaf (fel yn fersiwn y gogledd).
Cynghanedd: sain 53 ll. (38%), croes 43 ll. (31%), traws 34 ll. (24%), llusg 8 ll. (6%), braidd gyffwrdd 2 l. (1%). Trafodir cynghanedd y gerdd (ar sail testun GDG) yn Crawford, 1985.
1. Dyfed Roedd Emlyn yn un o saith gantref Dyfed, a Chemais, ardal hynafiaid Llywelyn, yn un arall, gw. PKM 93.
2. bro yr hud Cyfeirir at yr hud ar Ddyfed yn nhrydedd gainc y Mabinogi. Cymh. gwlad hud yn ll. 21 isod a gwlad yr hud yn 8.2.
4. hyddawn fur Mae LlGH a thestun Llywelyn Siôn yn gytûn ar hyn, ac mae'n ddarlleniad llai amlwg na hyddawn fu fersiwn y gogledd a dderbyniwyd yn GDG.
5–8. Adleisir yma y cywyddau serenâd fel 'Dan y Bargod' (98) lle mae'r bardd yn ymbil ar ei gariad i'w adael i mewn i'w thŷ. Gw. ymhellach R. Geraint Gruffydd, 'Marwnad Lleucu Llwyd', YB i (1965), 126–37 (131–2), a Johnston, 1983, 2.
9. Mae dd heb ei hateb yn y gynghanedd sain, ond mae'r darlleniadau amrywiol a geir yn fersiwn y gogledd ac yn Pen 49 yn edrych fel cynigion ar gywiro hyn.
17. gwir Testun Llywelyn Siôn yn unig sy'n cynnwys y gair hwn, ond mae'r llinell yn brin o sillaf (neu ddwy) yn y fersiynau eraill, ac heb hwn ni fyddai ail odl y gynghanedd sain yn syrthio ar y bumed sillaf fel y dylai wneud. Cymerir bod hwn yn disgrifio gwawr yn hytrach nag yn ffurfio gair cyfansawdd gyda nef fel yn GDG.
20. gŵyl Hwn yw darlleniad LlGH a thestun Llywelyn Siôn, ac mae'n rhoi mwy o bwrpas i'r cyfarchiad i Dduw na gwael fersiwn y gogledd a GDG.
21. gwlad hud Gw. nodyn 2 uchod. Mae'n debyg bod gwlad dud LlGH yn enghraifft o gamddehongli testun yn cael ei arddywedyd.
is dwfn Ar dwfn, 'byd', gw. PKM 99–101. Yr un gair sydd yn Annwfn, a chan fod y gair pendefig ar ddechrau'r llinell hon fe ddichon fod yma gyfeiriad at ymweliad Pwyll Pendefig Dyfed ag Annwfn yng nghainc gyntaf y Mabinogi. Ond mae'n bosibl hefyd mai at fedd Llywelyn y cyfeirir. Sylwer mai ys dwfn a geir yn Pen 49, ac ystafn yn Wy 2 (yn anffodus mae'r englyn hwn yn eisiau yn nhestun Llywelyn Siôn). Mae'n debyg mai dylanwad ys difai yn y llinell nesaf oedd yn gyfrifol am hynny. Byddai amrywio is / ys yn fwy nodweddiadol o arddull y cyfnod nag ailadrodd ys.
25. Lluniwyd y testun trwy gyfuno elfennau o'r tri fersiwn. Am ryw reswm collwyd neud ar ddechrau'r llinell yn LlGH ac yn nhestun Llywelyn Siôn. Dilynwyd fersiwn y gogledd yn GDG, Neud dwfn fy neigr, ond mae'r llinell sillaf yn fyr. Cymerir felly fod dialar LlGH yn cynrychioli'r un peth â dy alar Llywelyn Siôn. Ni cheir yr ail neud yn yr un llsgr., ond mae'n angenrheidiol er mwyn y synnwyr, ac mae'n debyg mai dyna sydd y tu ôl i naint mewn dwy o lsgrau Llywelyn Siôn a nait yn y llall.
26. llyw Dilynwyd LlGH yma, ond gellid derbyn llew fersiwn y gogledd, neu hyd yn oed llaw Llywelyn Siôn.
27–8. Ceir yr un cwpled yn union mewn cyfres o englynion serch gan Ruffudd ap Dafydd ap Tudur, un o ragflaenwyr DG, gw. GGDT 4.3–4.
29. Clud Tad Gwawl yng nghainc gyntaf y Mabinogi. Mae'n bosibl bod ail yn golygu 'mab, etifedd' yma, ac felly mai Gwawl ei hun a feddylir. Ond ystyr arferol ail mewn ymadroddion fel hyn yw 'cyffelyb i'.
nyw Ffurf ar y geiryn negyddol mewn cymal perthynol sy'n cynnwys rhagenw mewnol yn cyfeirio at wrthrych y ferf, sef elw clod. Tybiai Parry, GDG 449, mai berf gyflawn yn unig yw pallu, ond gw. GPC 2676.
30. gallel Hon yw'r ffurf a geir yn LlGH a fersiwn y gogledd. Roedd yn ddigon cyffredin yn y cyfnod canol, ac yn dal i fod ar lafar yng Ngheredigion hyd heddiw, gw. GPC 1377. Ond sylwer mai gallu sydd gan Lywelyn Siôn (er iddo gadw gallel yn 81 isod).
32. gawr Gwan yw'r dystiolaeth dros y darlleniad hwn. Ceir gwawr ym mwyafrif y llsgrau, esiampl mae'n debyg o roi gair cyfarwydd yn lle un anghyfarwydd. Yr unig un sy'n rhoi gawr fel prif ddarlleniad yw'r copi o LlGH yn LlGC 6209. Ceir gwawr yn y copi o LlGH yn Wy 2, a gwawr wedi'i gywiro i gawr yn Pen 49. Tybed, felly, ai gwawr gyda phwyntiau dileu o dan yr w gyntaf a geid yn LlGH? O ran y synnwyr mae gawr, 'bloedd' yn angenrheidiol. Y gystrawen yw 'Gwae fi fod . . . gawr eiriau mawr am ŵr mud.'
38. dygngoll Fe geir y term hwn mewn hen driawd cyfreithiol, gw. S. E. Roberts, 'Tri Dygyngoll Cenedl: The Development of a Triad', SC XXXVII (2003), 163–82. Yr ergyd yma yw bod y golled yn waeth am fod cenedl Llywelyn heb dderbyn yr iawndal amdano gan genedl y llofrudd a fyddai'n ddyledus yn ôl Cyfraith Hywel (gw. nodyn rhagarweiniol uchod).
40. Yn ôl patrwm yr englyn blaenorol disgwylid treiglo cwympo yma.
Sylwer mai Llywelyn Siôn yn unig a gadwodd y darlleniad anodd udd, 'arglwydd' (ond mae nudd fersiwn y gogledd yn ei awgrymu'n glir).
41. fy Rhi Cymerir mai cyfarchiad i Dduw yw hyn, ond gallai fod yn ddisgrifiad o Lywelyn, fel yn GDG. Cystrawen yr englyn yw 'Gwae fyfi . . . nad rhydd ymgerydd am gâr.'
43. rhudd Ar yr olwg gyntaf haws fyddai derbyn darlleniad fersiwn y gogledd, rhwydd, fel yn GDG. Ond os oedd y darlleniad gwreiddiol mor syml a naturiol â hynny, anodd esbonio rhudd yn LlGH a rhydd gan Lywelyn Siôn. Ac er bod rhudd yn annisgwyl fel disgrifiad o'r galar, mae'n ystyrlon iawn yn y cyd-destun gan fod lliw'r gwaed yn cyfleu'r awydd i ddial am y llofruddiaeth a fynegir ym mhrif frawddeg yr englyn.
45. llu darlleniad Llywelyn Siôn. Ceir llai yn fersiwn y gogledd, a lledrith yn Pen 49 a LlGC 6209 (mae'r englyn hwn yn eisiau yn Wy 2). Derbyniodd Parry yr olaf, ond mae'r llinell sillaf yn hir, ac nid yw'r ystyr yn amlwg yn y cyd-destun. Y tebyg yw mai ymgais i gryfhau'r gynghanedd yn y gair cyrch oedd lledrith. Cysylltodd Parry lledrith â brwyn yn yr ystyr 'reeds', gan weld y brwyn diflanedig yn symbol o fyrhoedledd. Ond mae'n sicr mai 'tristwch' yw brwyn yma.
47. Dilynwyd testun Llywelyn Siôn wrth ddarllen lleas ar ddechrau'r llinell a lles yn yr ail ran. Yr un oedd y drefn yn LlGH, ond gyda lliaws yn lle'r gair anodd lleas. Ceir lles ... lleas yn fersiwn y gogledd, a hwnnw a ddilynwyd yn GDG, ond nid ymddengys yr ansoddair taerfalch yn addas i ddisgrifio lles.
48. gwawr awen Hwn oedd darlleniad LlGH, ond anodd dewis rhyngddo a gorawen (fersiwn y gogledd a GDG). Efallai fod gwir awen Llywelyn Siôn yn tueddu i gefnogi hwn, gan ei fod hefyd yn ddau air ar wahân. Y pwynt pwysicaf, efallai, yw bod hwn yn pwysleisio gallu Llywelyn yng nghrefft cerdd dafod.
56. y Llystyn llys Llywelyn ym mhlwyf Nanhyfer yn sir Benfro, ar safle lle ceir ffermdy o'r un enw heddiw.
62. aur Afia Roedd cyfoeth Arabia yn ddiarhebol, cymh. 'Wyd rhoddiad rhuddaur Afia', CBT VI, 3.28 (Einion Wan).
Cymru i lawr Ceir Cymru fawr gan Lywelyn Siôn ac yn fersiwn y gogledd, a dyna a dderbyniwyd yn GDG, ond o ddarllen felly ceir yr un gair yn y brifodl mewn dwy linell yn olynol. Er mwyn osgoi hynny dilynwyd LlGH. Gellir ceseilio'r sillaf olaf ond un, ac mae'r synnwyr yn addas iawn.
63. Achosodd y llinell hon dipyn o benbleth i'r copïwyr, efallai am fod cystrawen anarferol y ferf diddawr yn anghyfarwydd iddynt. Mae fersiwn Llywelyn Siôn yn agos iawn i'r testun, ond am ryw reswm collodd y gair nai, a rhoi nor a ner yn ei le. Gellir adfer nai o'r fersiynau eraill. Ergyd y sangiad yw bod marwolaeth Llywelyn yn achos gofid arbennig am fod Dafydd yn nai iddo. Cofier hefyd y byddai'r nai yn cael cyfran o alanas o dan Gyfraith Hywel.
65–8. Yn fersiwn y gogledd yn unig y ceir yr englyn hwn, ac o un o destunau coll y fersiwn hwnnw y'i codwyd fel ychwanegiad ar waelod tudalen yn Pen 49. Saif rhwng llinellau 92 a 105 yn y llawysgrifau, ond gan fod trefn yr englynion yn fersiwn y gogledd yn bur ddryslyd, anodd gwybod ble y mae'n perthyn yn y testun golygedig. Fe'i rhoddwyd yn glo ar y gyfres yn GDG, ac roedd Parry yn hyderus ei fod yn y lle iawn am fod ei linell olaf yn cynnwys gair cyntaf y gerdd, Dyfed (gw. GDG 448). Ond mewn gwirionedd nid oedd ailadrodd o'r fath yn angenrheidiol mewn cyfres englynion (ni ddigwydd yn rhif 1), a fodd bynnag gair olaf y gerdd a fyddai fel arfer yn cyrchu'r dechrau. Yn y golygiad hwn fe'i rhoddwyd o flaen englyn arall yn dechrau 'Gŵr ...', ond rhaid cydnabod bod ei safle cywir yn ansicr. Sylwer nad oes ond naw sillaf yn ll. 65, a bod y gynghanedd yn bengoll.
70. dygngoll gw. nodyn ar l. 38 uchod.
76. cyn llas Nid oes tystiolaeth gynnar dros ddarlleniad GDG, can llas. Cyfeirir at y darlun cadarnhaol yn y llinell flaenorol.
77. dywirir Hon yw'r unig enghr. o'r gair yn GPC, ac mae'n amlwg nad oedd yn gyfarwydd i fwyafrif y copïwyr. Ceir divyrrir neu difyrrir yn y copïau o LlGH a chan Llywelyn Siôn (trwy gamddehongli u = w yn y cynsail?), a diwyrir ('unionir') yn H 26 a M 212. BL 14890 yw'r unig un o'r testunau cynradd sy'n rhoi dywirir. O ran synnwyr ('gwirir, cadarnheir') mae dywirir yn hollol addas yn y cyd-destun.
78. A laddo a leddir Ceir y ddihareb hon yn Dictionarium Duplex John Davies. Fe'i hailadroddir ar ffurf helaethach yn 87–88 isod.
81. gallel gw. nodyn ar 30 uchod.
82. maelereg Awgrymir yn GDG 451 mai ffurf fenywaidd artiffisial yw hon ar yr ansoddair maelierig (y ceir enghr. bosibl ohono yn meilyoric R 1364.42). Ond fel yr awgrymir yn GPC 2306, haws cymryd mai enw yw hwn wedi'i ffurfio o mael(i)er, 'masnachwr', + -eg, yn yr ystyr 'gwaith gŵr hur', h.y. cyllell wedi'i phrynu. O ran y ffurf heb yr i gytseiniol o flaen y terfyniad dilynwyd LlGH a Llywelyn Siôn, valereg. Cymh. maeleres yn 111.24, ond maelier 19.55.
89. heilbryn LlGH yn unig a gadwodd y gair cyfansawdd hwn, hail, 'cyfeddach' + bôn y ferf prynu.
93. argae Cynigir yn GDG 451 mai 'bedd' yw'r ystyr yma, ond fe ymddengys mai defnydd ffigurol o'r ystyr 'lle caeedig' sydd yn yr enghrau a ddyfynnir ganddo, gw. GPC 2 449. Fe ddefnyddid y gair mewn cyd-destun cyfreithiol yn yr ymadroddion 'argae gwaed', 'argae llys', ac 'argae terfyn', ond nid yw'r ymadroddion hynny'n cyfleu'r syniad o gam sy'n haeddu dial. 'Atalfa, rhwystr' yw'r ystyr fwyaf addas yma.
i'r deau Mae'r tri chopi o LlGH yn wahanol yma: ir dehau yn LlGC 6209, i dehau yn Wy 2, ac o'r deau yn Pen 49. Efallai mai Wy 2 sy'n cynrychioli darlleniad gwreiddiol LlGH, a bod yr r wedi'i hepgor yno am nad yw'n cael ei hateb yn yr ail linell. Testun carbwl iawn a geir gan Lywelyn Siôn, ond mae fersiwn y gogledd yn cefnogi darlleniad y testun.
95–6. A wnêl drwg ... arhöed y llall Ceir y ddihareb hon yng nghasgliad Llyfr Du'r Waun, gw. B iii (1926–7), 25.
97. Naturiol fyddai cymryd gwedy gyda dwyn, ond fe ymddengys bod angen y treiglad er mwyn y gynghanedd yn y gair cyrch. Serch hynny, ffurf gysefin dwyn a geir yn y copïau o LlGH a chan Lywelyn Siôn, ac efallai y dylid derbyn nad atebir y gytsain gyntaf (peth hollol dderbyniol yn y gair cyrch, gw. CD 281). Mae atalnodi'r testun yn cymryd gwedy yn annibynnol yn yr ystyr 'wedyn', a ddwyn fel cymal enwol yn cyfleu'r rheswm am y dallineb.
106. Cyfeirir at Rod Ffawd a fyddai'n troi'n barhaus.
112. llaw Ni cheir y darlleniad hwn yn yr un o'r llsgrau. Yn ôl tystiolaeth Wy 2 a LlGC 6209 ceid llafur yn LlGH (yn ôl pob tebyg llauur yn orgraff y llsgr.). Mae hwnnw'n rhoi llinell wythsill, a dyna, efallai, pam y rhoddodd John Davies llwfr yn ei le yn Pen 49. Ond ceir llafar yn fersiwn y gogledd, ac yn arbennig o ddiddorol, llafn gan Lywelyn Siôn (llafr yn IAW 4). Derbyniwyd llwfr yn GDG, gan ei gysylltu â dyn yn y llinell flaenorol. Ond os llwfr oedd y darlleniad gwreiddiol, anodd esbonio'r amrywiadau yn y llsgrau eraill, ac yn enwedig bresenoldeb cyson yr a. Mae'r diwygiad hwn yn fodd i esbonio'r dryswch o ddau safbwynt: yn gyntaf am ei fod yn air anghyffredin, sef ansoddair yn golygu 'gwael, truenus' (cymh. GDG 96.7), ac yn ail am fod cynghanedd y llinell yn afreolaidd, gydag f ac r heb eu hateb (am enghrau eraill o ddwy lythyren heb eu hateb gw. Lynch, 2003, 138–40). Ac o ran orgraff, os llau neu llauu oedd mewn cynsail cynnar, nid anodd gweld sut y buasai'n esgor ar y darlleniadau amrywiol, ac yn enwedig un Llywelyn Siôn.
113. Mae hon yn llinell broblemus. Dilynwyd fersiwn y gogledd yn GDG, 'Och ddwyn Llywelyn, dyn doeth', ond os cywir honno fyddai'r unig enghraifft o odl gyntaf y gynghanedd sain ar y bumed sillaf yn holl linellau cyntaf englynion DG (gw. Crawford, 1985, 243). Nid yw Morris-Jones yn cydnabod unrhyw eithriad i'r rheol y dylai ail odl y sain fod yn y rhagwant ar y bumed sillaf (CD 286). Ond mae lle i gredu bod darlleniad GDG yn llwgr. Ni cheir y gair dyn yn y copïau o LlGH, ac yn Ll 48 hepgorodd Llywelyn Siôn doeth hefyd. Yng nghopi arall Llywelyn Siôn yn IAW 4 ceir och ddoeth. Mae'n bosibl mai ymgais gan y copïwr ei hun i drwsio llinell wallus oedd hyn, ond yn sicr mae'r llinell yn fwy boddhaol fel cynghanedd draws nag fel sain. Mae'r ansoddair doeth braidd yn annisgwyl i ddisgrifio och, ond mae'n gwneud synnwyr o'i ddeall fel 'meddylgar'.
117. Llinell nawsill, ond felly y mae ym mhob copi cynnar (heblaw dala gan Lywelyn Siôn, ffurf sydd yn amlwg yn annilys).
120. panad ffurf amrywiol ar ponid, gw. GPC 2848. Dilynwyd Pen 49 yma (panit yn LlGC 6209, a ponid yn Wy 2). Y tebyg yw bod pam nad fersiwn y gogledd yn ymgais i wneud synnwyr o ffurf anghyfarwydd.
122. fawrglod Gwan yw'r dystiolaeth dros ddarlleniad GDG, fawrglwyf, gan fod H 26 yn cytuno â LlGH a Llywelyn Siôn o blaid fawrglod. At ogoniant y gorffennol y cyfeiria'r cwestiwn, nid at alar y presennol.
125. gweli tafawd ymadrodd cyfreithiol, yn llythrennol 'clwyf tafod', ac felly sarhad, enllib, ac yna'r iawndal a oedd yn ddyledus am hynny. Yn ôl atalnodi GDG mae gwaith i'w gymryd gyda hyn, ond os felly disgwylid treiglad. Cymerir felly mai 'gwaith gwaeth' yw'r gystrawen. Mae'r llsgrau'n gytûn ar gwaith, ond diddorol nodi i Lywelyn Siôn ysgrifennu gwyth yn gyntaf yn IAW 4, cyn ei gywiro i gwaith fel sydd ganddo yn Ll 48. Byddai gŵyth, 'dicllonedd' neu 'ffyrnig' yn addas iawn i ddisgrifio gweli tafawd.
127. gwaeg Rhoddwyd y ffurf ddeusill gwäeg yn GDG, gan hepgor yw, ond nid oes cefnogaeth i hynny yn y llsgrau. Sylwer mai unsill yw'r gair yn yr enghrau o waith Beirdd yr Uchelwyr a ddyfynnir yn GPC 1549.
cedyrn Dilynwyd LlGH yn GDG wrth ddarllen cadarn, sef ansoddair yn disgrifio gwaeg. Ond mae fersiwn y gogledd yn cyd-fynd â thestun Llywelyn Siôn yma, a gwell deall y ffurf luosog fel enw, gyda'r ergyd bod Llywelyn yn geidwad i'r milwyr cryfion.
132. i gyd Mae'r tri fersiwn yn gytûn ar hyn (er na ddangosir yr i yng nghopïau LlGH a thestun Llywelyn Siôn gan ei fod wedi'i geseilio), ac nid oes cefnogaeth yn y llsgrau i ddarlleniad GDG, Cwympo cyd gampau.
133. fflowr dling dy lis Ni cheir yr englyn hwn yn fersiwn y gogledd, ac mae'r llinell yn hollol garbwl gan Lywelyn Siôn, felly rhaid dibynnu ar gopïau LlGH yn unig am y darlleniad hwn. Benthyciad o'r Ffrangeg fleur de lis (efallai trwy'r SC flour de lyce), sef y lili, yw'r prif ymadrodd yma. Awgryma'r ansoddair goreuraid mai dyfais herodrol a olygir. Gellir derbyn awgrym Parry (GDG 452) fod dling yn cynrychioli'r Ffrangeg de ling neu de lign, 'o linach, bonheddig'. Nododd D. J. Bowen (1995, 366) fod tri fflŵr-dy-lis ymhlith y dyfeisiau ar arfbais Gwilym ab Einion Fawr, taid Dafydd. Y fleur de lis oedd emblem cenedlaethol Ffrainc, ac mae'n debyg mai dyna pam y sonnir amdano fel gwaredigaeth clochdy Paris yn y llinell nesaf. Cofier i fyddin Edward III fynd yn agos iawn i Baris yn 1346, tua'r adeg y bu farw Llywelyn.
136. Ceir n berfeddgoll yn ail hanner y llinell hon.
137. Cyfunwyd dau fersiwn er mwyn cael llinell ddegsill ystyrlon. Ceir truan ac eirian a garo dadl yng nghopïau LlGH a thestun Llywelyn Siôn (ac yn GDG), a girad a thost pawb a garo dadl yn fersiwn y gogledd. Mae'n debyg bod sillaf wedi'i cholli oherwydd tybio bod dadl yn ddeusill. Yr ergyd yw y dylai'r sawl sy'n caru trafodaeth ddeallus fynd i fynwent Llandudoch lle claddwyd doethineb. Ond sylwer mai fersiwn y gogledd yn unig a gadwodd y gair allweddol aed.
138. Landudoch treiglad meddal yn dynodi cyrchfan y ferf aed.