â â â Lladrata Merch
1â â â Lleidr i mewn diras draserch
2â â â Ymannos fûm: mynnais ferch.
3â â â Llwyr fry y'm peris llerw'r fro,
4â â â Lleidr dyn, yn lledrad yno.
5â â â Gwanfardd o draserch gwenfun,
6â â â Gwae leidr drud am hud hun.
7â â â Ar y modd, gwell nog aur mâl,
8â â â Y'i cefais-och rhag gofal!
9â â â Gwedy cael, neud gwawd, i'w cwyn
10â â â Gwin a medd, gwen em addwyn,
11â â â Meddwon fuont fal meiddwyr,
12â â â Mau boen gwych, meibion a gwyr.
13â â â Cysgu gwedy, symlu sôn,
14â â â A wnaethant, bobl annoethion,
15â â â Twrf eirthgrwydr, fal torf wrthgroch,
16â â â Talm mawr, megis teulu moch.
17â â â Mawr fu amorth y porthmon.
18â â â Meddwon oeddynt o'r hynt hon.
19â â â Nid oedd feddw dyn danheddwyn,
20â â â Nid wyf lesg, nid yfai lyn.
21â â â Os meddw oeddwn, gwn gad,
22â â â Medd a'i gwyr, meddw o gariad.
23â â â Er gostwng o'r ddiflwng ddau
24â â â Y gannwyll fflamgwyr gynnau,
25â â â Hir o chwedl, fardd cenhedloyw,
26â â â Ni hunai hoen ertrai hoyw.
27â â â Fy nyn, ni hunwn innau
28â â â Er maint oedd y meddwaint mau.
29â â â Se'i meddyliais, ei cheisiaw
30â â â O'r gwâl drwg i'r gwial draw.
31â â â Cyd bai anawdd, garwgawdd gwr,
32â â â Ei chael o i wrth ei chulwr,
33â â â Mai degwch, mi a'i dygum.
34â â â Myn delw Fair fyw, dilwfr fûm.
35â â â Ni wyddiad, bryd lleuad bro,
36â â â Ei dynion ei bod yno.
37â â â Nid oedd fawr am geinwawr gynt
38â â â Ysgipio 'mhen pes gwypynt.
39â â â Od â bun ar ei hunpwynt
40â â â I gyd-gyfeddach ag wynt,
41â â â (Ei rhieni, rhai anardd,
42â â â A geidw bun rhag oed â'i bardd)
43â â â Hir fydd yn eoswydd nos,
44â â â Hirun Faelgwn, ei haros.