Lladrata Merch
Y noson o'r blaen [a minnau wedi fy meddiannu] gan drachwant
ysgeler
bûm yn lleidr: mynnais [ddwyn] merch.
Parodd seren y fro acw i mi [fod] yn hynod o llechwraidd,
4 [myfi], y lleidr merch.
Bardd agored i demtasiwn oherwydd [ei] serch eithafol at lodes
brydferth,
gwae y lleidr beiddgar oherwydd lledrith cwsg.
Oherwydd y modd y llwyddais i'w hennill,
8 gwell [oedd ei dwyn] na [dwyn] aur pur, och oherwydd y
drafferth [a gafwyd]!
Ar ôl cael gwin a medd yn eu gwledd,
[testun] moliant [ydyw'r] ferch hawddgar [sydd megis] tlws,
meddw oeddynt, y gwyr a'r llanciau, fel dynion sy'n bwyta
maidd,
12 cosb lem [sydd] gennyf [ar eu cyfer].
Mynd i gysgu a wnaethant wedyn,
y llu ffôl, [gan] greu trwst mawr,
rhuo llu o eirth ar daith, fel tyrfa amhersain,
16 lliaws mawr ohonynt, fel cenfaint o foch.
Esgeulus iawn fu'r masnachwr.
Meddw oeddynt i gyd yn sgil yr antur hon.
Nid oedd y ferch a chanddi ddannedd gwynion yn feddw,
20 nid wyf yn un diymadferth, ac nid yfai o gwbl.
Os oeddwn i yn feddw, meddw o gariad oeddwn
yn ôl y sawl a wyr, yr wyf yn gyfarwydd ag
ymdrech.
Er i'r ddau hynaws ddiffodd
24 y gannwyll gwyr a'i fflam olau,
testun siarad am ysbaid maith [fydd hyn], bardd o dras
[ydwyf],
nid oedd [yr un a'i] gwedd [megis] ewyn byrlymus [ar don] yn
cysgu.
Nid oeddwn innau yn cysgu, fy nghariad [ydyw],
28 er cymaint yr oeddwn wedi meddwi.
A'r bwriad a ddaeth imi [oedd] ceisio [ei dwyn]
i'r llwyni y tu allan ac allan o'r lloches wrthun.
Er mai anodd ydoedd ei chael yn rhydd o [afael] ei phriod
tenau,
32 blin a digofus [fydd ei] gwr / trafferth fawr i wr
[oedd hynny],
[yr un y perthyn iddi] degwch mis Mai, dygais hi,
ac myn y ddelw o Fair sanctaidd, gweithredais yn ddewr.
Ni wyddai ei thylwyth ei bod yno,
36 yr un a'i phryd [yn goleuo] ei bro [fel y] lleuad.
Pe gwyddent ni fyddai yn ddim ganddynt
fy amddifadu o'm pen oherwydd yr arglwyddes osgeiddig [a oedd]
gynt [yn eu cwmni].
Os â'r lodes yn unswydd
40 i gydyfed â hwy [eto],
(bydd ei thylwyth, hen rai diflas,
yn ei chadw rhag cwrdd â'i moliannwr)
hir fydd yr aros amdani [wedyn] yn y tywyllwch yn llwyni'r
eos,
44 [ysbaid] hir [megis ysbaid] cwsg Maelgwn.