â â â Y Cleddyf
1â â â Rhyhir wyd a rhy gyflun,
2â â â Rho Duw, gledd, ar hyd y glun.
3â â â Ni ad dy lafn, hardd-drafn hy,
4â â â Gywilydd i'w gywely.
5â â â Cadwaf i di i'm deau,
6â â â Cedwid Duw y ceidwad tau.
7â â â Mau gorodyn, mygr ydwyd,
8â â â Meistr wyf a'm grymuster wyd.
9â â â Gwr fy myd ni gar fy myw,
10â â â Gwrdd ei rwystr, gerddor ystryw,
11â â â Tawedog, enwog anwych,
12â â â Tew ei ddrwg, mul wg mal ych.
13â â â Gweithiau y tau, amod da,
14â â â Ac weithiau y'm bygythia.
15â â â Tra'th feddwyf, angerddrwyf gwrdd,
16â â â Er ei fygwth, arf agwrdd,
17â â â Oerfel uwch ben ei wely,
18â â â A phoeth fo dy feistr o ffy
19â â â Nac ar farch, dibarch dybiaw,
20â â â Nac ar draed er y gwr draw,
21â â â Oni'm pair rhag deuair dig
22â â â Cosb i'th ddydd, casbeth Eiddig.
23â â â Catgno i gilio gelyn,
24â â â Cyrseus, cneifiwr dwyweus dyn,
25â â â Coethaf cledren adaf wyd;
26â â â Collaist rwd, callestr ydwyd.
27â â â Coelfain brain brwydr, treiglgrwydr trin,
28â â â Cilied Deifr, caled deufin,
29â â â Cyfylfin cae ufelfellt,
30â â â Cadwaf dydy i'th dy dellt.
31â â â Cwysgar wyd rhag esgar ym,
32â â â Cain loywgledd canoliglym.
33â â â Llym arf grym, llyma f'aur gred,
34â â â Lle y'th roddaf llaw a thrwydded:
35â â â Rhag bod yng nghastell celli
36â â â Rhyw gud nos i'n rhagod ni,
37â â â Rhwysg mab o fuarth baban,
38â â â Rhed, y dur, fal rhod o dân.
39â â â Na chêl, ysgwyd Guhelyn,
40â â â Ar fy llaw o daw y dyn.
41â â â Glew sidell, gloyw osodau,
42â â â Rhyfel wyd, y metel mau.
43â â â Hwn a'm ceidw rhag direidwyr,
44â â â Ehuta' cledd, wyr Hawt-clyr.
45â â â Ar herw byddaf ar hirwyl
46â â â Dan y gwydd, mi a'm dyn gwyl.
47â â â Nid ansyberw ym herwa
48â â â Os eirch dyn, nid o serch da.
49â â â Talm o'r tylwyth a'm diaur,
50â â â Tew fy ôl ger ty fy aur.
51â â â Ciliawdr nid wyf, wyf Ofydd,
52â â â Calon serchog syberw fydd.