| Y Cleddyf | |
| Rhyhir wyd a rhy gyflun, | |
| Rho Duw, gledd, ar hyd y glun. | |
| Ni ad dy lafn, hardd–drafn hy, | |
| 4 | Gywilydd i'w gywely. |
| Cadwaf i di i'm deau, | |
| Cedwid Duw y ceidwad tau. | |
| Mau gorodyn, mygr ydwyd, | |
| 8 | Meistr wyf a'm grymuster wyd. |
| Gŵr fy myd ni gar fy myw, | |
| Gwrdd ei rwystr, gerddor ystryw, | |
| Tawedog, enwog anwych, | |
| 12 | Tew ei ddrwg, mul wg mal ych. |
| Gweithiau y tau, amod da, | |
| Ac weithiau y'm bygythia. | |
| Tra'th feddwyf, angerddrwyf gwrdd, | |
| 16 | Er ei fygwth, arf agwrdd, |
| Oerfel uwch ben ei wely, | |
| A phoeth fo dy feistr o ffy | |
| Nac ar farch, dibarch dybiaw, | |
| 20 | Nac ar draed er y gŵr draw, |
| Oni'm pair rhag deuair dig | |
| Cosb i'th ddydd, casbeth Eiddig. | |
| Catgno i gilio gelyn, | |
| 24 | Cyrseus, cneifiwr dwyweus dyn, |
| Coethaf cledren adaf wyd; | |
| Collaist rwd, callestr ydwyd. | |
| Coelfain brain brwydr, treiglgrwydr trin, | |
| 28 | Cilied Deifr, caled deufin, |
| Cyfylfin cae ufelfellt, | |
| Cadwaf dydy i'th dŷ dellt. | |
| Cwysgar wyd rhag esgar ym, | |
| 32 | Cain loywgledd canoliglym. |
| Llym arf grym, llyma f'aur gred, | |
| Lle y'th roddaf llaw a thrwydded: | |
| Rhag bod yng nghastell celli | |
| 36 | Rhyw gud nos i'n rhagod ni, |
| Rhwysg mab o fuarth baban, | |
| Rhed, y dur, fal rhod o dân. | |
| Na chêl, ysgwyd Guhelyn, | |
| 40 | Ar fy llaw o daw y dyn. |
| Glew sidell, gloyw osodau, | |
| Rhyfel wyd, y metel mau. | |
| Hwn a'm ceidw rhag direidwyr, | |
| 44 | Ehuta' cledd, ŵyr Hawt–clŷr. |
| Ar herw byddaf ar hirwyl | |
| Dan y gwŷdd, mi a'm dyn gŵyl. | |
| Nid ansyberw ym herwa | |
| 48 | Os eirch dyn, nid o serch da. |
| Talm o'r tylwyth a'm diaur, | |
| Tew fy ôl ger tŷ fy aur. | |
| Ciliawdr nid wyf, wyf Ofydd, | |
| 52 | Calon serchog syberw fydd. |