Y Cleddyf
Hir iawn a chymesur iawn ydwyt,
myn Duw, gleddyf, ar hyd y glun.
Ni chaniata dy lafn (arglwydd hardd a dewr)
4 gywilydd i'r un sy'n rhannu gwely ag ef.
Fe'th gadwaf i di ar fy ochr dde,
bydded i Dduw gadw dy geidwad ti.
Fy nhegan, hardd ydwyt,
8 meistr wyf i a'm grym wyt ti.
Ni char gwr fy anwylyd y ffaith fy mod yn fyw,
cadarn ei rwystr, crefftwr twyll,
[un] tawedog, enwog a gwael,
12 lluosog ei ddrygioni, [â] gwg ffôl fel ych.
Weithiau yr ymdawela (addewid da)
ac weithiau y'm bygythia.
Tra meddaf di (arglwydd angerddol cadarn)
16 er ei fygythiad (arf cadarn)
[bydded] oerfel uwch ben ei wely.
A phoeth fo dy feistr os yw'n ffoi
naill ai ar farch (meddwl diurddas)
20 neu ar draed oherwydd y gwr draw,
oni bai ei fod yn peri, oherwydd dau air dig,
gosb imi yn dy ddydd, y peth a gaseir gan Eiddig,
Gwaniad [mewn] brwydr i yrru gelyn ar ffo,
24 Cyrseus, cneifiwr dwy wefus dyn,
[y] wialen geinaf [ar gyfer] llaw ydwyt;
rwyt yn amddifad o rwd, callestr ydwyt.
Gwobrwywr brain brwydr, addurn rhwyllwaith rhedegog ymladdfa,
28 bydded i wyr Deifr gilio, un caled â dau fin,
llafn gwregys o fellt tanllyd,
cadwaf di yn dy dy o wiail.
Rwyt yn addas i hollti [mewn brwydr] yn erbyn gelyn imi,
32 cleddyf cain gloyw llym â rhigol.
Arf llym grymus, dyma fy nghred euraid,
lle y rhoddaf law a thrwydded iti:
rhag bod rhyw farcud nos
36 yn ein rhwystro ni mewn castell celli,
balchder bachgen o gorlan baban,
rhed, yr [offeryn] dur, fel cylch o dân.
Na chuddia (tarian Cuhelyn)
40 ar fy llaw os daw y dyn.
Cylch cadarn (ergydiau gloyw)
rhyfel ydwyt, fy metel i.
Hwn a'm ceidw rhag dihirod,
44 [y] cleddyf cyflymaf, disgynnydd Hawt-clyr.
Ar herw y byddaf ar wyliadwraeth faith
dan y coed, mi a'm merch wylaidd.
Nid taeogaidd imi herwa
48 os yw['r] ferch yn gofyn [imi wneud hynny], nid o gariad at
gyfoeth.
Bydd rhai o'r tylwyth yn fy nghyhoeddi'n ddieuog,
amlwg [yw] fy ôl ger ty fy anwylyd.
Ciliwr nid ydwyf, wyf Ofydd,
52 bydd calon carwr yn fonheddig.