ir cleddyf
1 Rhyhir wyd goflwyd gyflun
2 rho duw glwys ar hyd y glun
3 ni ad dy lafn hoywdrafn hy
4 gywilydd yw gywely
5 cadwa fi di im deau
6 cedwid duw y ceidwad tau
7 mau gorodyn mygr ydwyd
8 meistr im grymyster wyd
9 gwr fy myd nis car fy myw
10 gwrdd i rwystr gerddawr ystryw
11 tawedog enwog anwych
12 tew ei ddrwg mûl wg mal ych
13 weithiau i tau anwyd da
14 ag weithiau im bygythia
15 tra' th feddwyf angerddrwyf gwrdd
16 er ei fygwth arf agwrdd
17 oerfel uwch ben i wely
18 a phoeth fo dy feistr o ffy
19 nag ar farch dibarch dybiaw
20 nag ar draed er un gwr draw.
21 o nim pair rhag deuair dig
22 cosb i'th wydd casbeth eiddig
23 catgno i gilio gelyn
24 cresys cneifiwr dwy wefus dyn
25 coethaf cledren adaf wyd
26 collaist rwd callestr ydwyd
27 coelfain brain brwydr trwy grwydr trin
28 cilied Deifr caled deufin.
29 cyfelyn cae ufelwellt
30 cadwa dydy ith dy dellt,
31 cwysgar wyd rhag esgar ym
32 cain loywgledd canolyglym
33 [199v] llym aerfgrym llyma ar gred
34 lle ith roddaf llaw a thrwydded.
35 rhag bod ynghastell celli
36 rhyw gût nos i'n rhagot ni
37 rhwysc mab a buarth baban
38 rhed y dur fal rhod o dân
39 ni chel yscwyd cyhelyn
40 ar fy llaw o daw y dyn
41 glew sidell gloiw osodiad
42 rhyfel wyd ym mettel mâd
43 ti a'm ceidw rhag direidwyr
44 Rhitta gledd wyr rhawt y clyr
45 ar herw byddaf ar hirwyl
46 af dan goed mi a'm dyn gwyl
47 nid ansyber ym herwa
48 os eirch dyn nid o serch da
49 talm om tylwyth i am diaur
50 tew fy ol ger tai fy aur
51 ciliawdr nid wyf wyf Ofydd
52 calon serchogion y sydd.
Dafydd ap Gwilym