k: y kledde
1 Rhyhir wyd gyflwyd goflvn
2 rho duw gledd ar hyd y glvn
3 ni ad dy lafn hardd drafn hv
4 gwilydd yw i gywelv
5 kadwa fi di im deav
6 kedwid tuw y keidwad tav
9 gwr fy myd nis kar fy myw
10 gwrdd i rwstr gerddor ystryw
11 tewedog enwog anwych
12 tew i ddrwg mvl wg mal ych
13 weithiav y tav anwyd ta
14 ag weithiav y bygythia
7 mav gorodyn mygr ydwyd
8 meistr wyf a grymysder wyd
15 tra ith feddwyf angerdd nwyf gwrdd
16 er i fygwth arf agwrdd
17 oerfel vwch benn i welv
18 a ffoeth fo dy feistr o ffv
19 nag ar farch dibarch dybiaw
20 nag ar draed er vngwr draw
21 onis pair kas diwair dig
22 kosb ith ddydd kasbeth eiddig
23 kadno i gilio gelynn
24 awchus gneifiwr deifiwr dyn
25 koethaf kledren addaf wyd
26 kollaist rwd kallestr ydwyd
29 kyfelin kae o fvlfelld
30 kadwaf dydi ith dy delld
27 koelfain brain grwydr treiglfrwydr trin
28 kvlied teifr kaled teûfin
31 kwysgar wyd rhag ysgar ymm
32 kain gloewgledd kanoliglymm
33 llym arf grym lle mae r gred
34 lle ith roddedr llaw ath rwyrodded
35 rhag bod ynghastell kelli
36 rhyw gud nos in rhagod ni
39 ni chel yst ysgwyd fyngelynn
40 ar fy llaw o daw y dyn
41 glew sidell gloew osodiad
42 rhyfel wyd y mettel mad
37 rhwysg mab ai fvarth baban
38 rhed y dur fel rhod o dan
43 hynn am keidw rhag direidwyr
44 hvta cledd wyr ar hawt klyr
45 ar herw byddaf ar hirwyl
46 Dann goed mi am dyn gwyl
47 nid ansyber ym herwa
48 os eirch dyn nid o serch da
49 talm o dylwyth am diavr
50 tew fy ol ar ger ty fy avr
51 kiliadr nid wyf wyf ofydd
52 kalon serchog syberw fydd
dd ap Gwilim