Pen 49, 74r–75r   
    C. i'r cleddyf
 
1    Rhyhir wyt ar y gyflun
2    Rho Duw gledd ar hyd y glun
3    Ni âd dy lafn hardrafn hy
4    Gywilydd i'w gywely
5    Cadwaf i di i'm deau
6    Cedwid Duw y ceidwad tau
7    mau gor/odyn mygr ydwyt
8    a meistr i'm grymusder wyt
9    Gwr fy myd ni gar fy myw
10    Gwrdd ei rwystr gerdd gerddor o'r ystryw
11    Tawedog enwog anwych
12    Tew ei ddrwg mul wg mal ŷch
13    Gwaithiau y tau amod da o anwyd da
14    Ac weithiau i'm bygythia
15    Tra y'th feddwyf angerddrwyf gwrdd
16    [74v] Er ei fygwth arf agwrdd
17    Oerfel vwch ben ei wely
18    A phoeth fo dy feistr o ffŷ
19    Nac ar farch dibarch dybiaw
20    Nac ar draed er y gwr draw
21    Oni'm pair rhag dauair cas diwair dig
22    Cosp i'th ddydd casbeth aiddig
23    Cadcno i gilio gelyn
24    Cyrsaius cnaifiwr dwy wevr weus dyn Cur sais cneifiwr dwyais dyn
25    Coethaf cledren addaf wyd
26    Collaist rwd callestr ydwyd
27    Coelfain brain brwydr trwy grwydr trin
28    Cilied ddeifr caled daufin
29    Cyfylfin caf o cae ufelfellt
30    Cadwaf dydy i'th dy dellt
31    cwysgar wyt rhag gwasgar ym
32    Cain loywgled canolyowglym
33    llym arf grym llyma f'aur rhof gred
34    lle y'th rhoddaf llaw a thrwydded
35    Rhag bod ynghastell celli
36    Rhyw gut nos i'n rhagot ni
37    [75r] Rhwysg mab o ai fuarth baban
38    Rhed y dur fal rhod o dan
39    Na chel ysgwyd gyhelyn
40    ar fy llaw o daw y dyn
41    Glew sidell gloyw osodauiad
42    Rhyfel wyd y mettel maud
43    Hwn a'm caidw rhag diraidwyr
44    Ehutta cledd ail hawd clyr
45    Ar herw byddaf ar hirwyl
46    Dan y gwydd mi a'm dyn gwyl
47    Nid ansyber i'm herwa
48    Os eirch dyn nid o serch da
49    Talm o'r tylwyth a'm diaur
50    Tew fy ol gar ty fy aur
51    Ciliawdr nid wyf wyf ofydd
52    Calon serchog syber fydd serchogion y sydd
 
    Da' ap Glm'
 
    Nodiadau
    Exr per vetustum