Wy 2, 147–9   
    K. ir cleddyf
 
1    Ryhir wyt ar y gyflun
2    Ro duw gledd ar hyd y glun
3    Ni ad ty lafn hardrafn hy
4    gywilydd yw gywely
5    kadwaf i di im deau
6    kedwid duw y kaidwad tau
7    mau gorodyn mygr ydwyd
8    maistr ym grymvster wyd
9    gwr vy myd ni gar vy myw
10    gwrdd i rwystr gerdd or ystryw
11    Tawedog enwog anwych
12    Tew i drwg mul wg mal ych
13    gwaithiau y tau amoi ta
14    Ag weithiau ni by bygytha
15    fraith veddwyf angerddrwyf gwrdd
16    Er i bygwth arf agwrdd
17    [148] Oervel vwch ben i wely
18    a phoeth vo dy vaistr o ffy
19    Nag ar varch dibarch dybiaw
20    Nag ar draed er y gwr draw
21    On im pair rag dauair dig
22    kosp ith dydd kasbeth aiddig
23    katkno i gilio gelyn
24    kyrssaus knaifiwr dwyweu /r/ dyn
25    koethaf kledren addaf wyd
26    kollaist rwd kallestr ydwyd
27    koelvain brain brwydr trwy grwydr trin
28    kilied defr caled dauvin
29    kyfylvin kae vfelvellt
30    kadwaf dy dy ith dy dellt
31    kwysgar wyt rag kwasgar ym
32    kain loywgledd kanol y glym
33    llym arf grym llyma vaur gred
34    lle ith roddaf llaw a thrwy ded
35    Rag bod ynghafell kelli
36    ryw gud nos in ragod ni
37    Rwysc mab o vuarth baban
38    Red y dur val rod o dan
39    Na chel ysgwydd gyhelyn
40    Ar vyllaw o daw y dyn
41    glew sidell gloyw ossodau
42    Ryvel wyt y uettel mau
43    hon am kaidw rag diriaidwyr
44    Ehutta kledd ail hawd klyr
45    [149] Ar herw byddaf ar hirwyl
46    dan y gwydd mi am dyn gwyl
47    nid ansyber im herwa
48    os airch dyn nid o serch da
49    Talm or tylwyth am dieur
50    tew vy ol ger tai vy aur
51    kiliawdr nid wyf ovydd
52    kalon serchog syberw vydd
 
    dd ap Glm.