â â â Merch yn Edliw ei Lyfrdra
1â â â 'Yr adlaesferch, wawr dlosfain,
2â â â Wrm ael, a wisg aur a main,
3â â â Ystyr, Eigr, ystôr awgrym,
4â â â Is dail aur, a oes dâl ym,
5â â â Ymliw glân o amlwg lais,
6â â â Em o bryd, am a brydais
7â â â I'th loywliw, iaith oleulawn,
8â â â A'th lun gwych, wyth liwne gwawn'.
9â â â 'Hir y'th faddeuaf, Ddafydd.
10â â â Hurtiwyd serch. Hort i ti sydd
11â â â O fod, rhyw gydnabod rhus,
12â â â Yn rhylwfr, enw rheolus.
13â â â Ni'm caiff innau, noddiau Naf,
14â â â Uthr wyd, wr, eithr y dewraf'.
15â â â 'Cwfl manwallt cyfliw manwawn,
16â â â Cam a wnai, ddyn cymen iawn.
17â â â Cyd bwyf was, cyweithas coeth,
18â â â Llwfr yn nhrin, llawfron rhynoeth,
19â â â Nid gwas, lle bo gwyrddlas gwydd,
20â â â Llwfr wyf ar waith llyfr Ofydd.
21â â â A hefyd, Eigr gyhafal,
22â â â Ystyr di, ys di-wyr dâl,
23â â â Neitio cur, nad da caru
24â â â Gwas dewr fyth, a gwst oer fu,
25â â â Rhag bod, nid cydnabod cain,
26â â â Rhyfelwr yn rhy filain.
27â â â Rhinwyllt fydd a rhy anwar.
28â â â Rhyfel ac oerfel a gâr.
29â â â O chlyw fod, catorfod tyn,
30â â â Brwydr yng ngwlad Ffrainc neu Brydyn,
31â â â Antur gwrdd, hwnt ar gerdded
32â â â Yn wr rhif yno y rhed.
33â â â O daw, perhôn a diainc,
34â â â Odd yno, medr ffrwyno Ffrainc,
35â â â Creithiog fydd, saethydd a'i sathr,
36â â â A chreulon, ddyn wych rylathr.
37â â â Mwy y câr ei drymbar draw
38â â â A'i gledd-gwae a goel iddaw!-
39â â â A mael dur a mul darian
40â â â A march o lu no merch lân.
41â â â Ni'th gêl pan ddêl poen ddolef,
42â â â Ni'th gais eithr i drais o'r dref.
43â â â 'Minnau â'r geiriau gorhoyw,
44â â â Pe'th gawn, liw eglurwawn gloyw,
45â â â Da gwn, trwsiwn wawd trasyth,
46â â â Degle, ferch, dy gelu fyth.
47â â â 'Perhôn ym gael, gafael gaeth,
48â â â Deifr un hoen, dwy frenhiniaeth,
49â â â Deune'r haul, nid awn er hyn,
50â â â Wythliw dydd, o'th loyw dyddyn'.