Merch yn Edliw ei Lyfrdra
1 'Y ferch wylaidd, arglwyddes hardd a lluniaidd,
2 tywyll [ei] haeliau, sy'n gwisgo [addurn o] aur a cherrig
gwerthfawr,
3 ystyria, [un megis] Eigr, amlder o gerrig rhifo [sydd
gennyt],
4 o dan y gwallt euraid, a oes taliad [yn ddyledus] i mi,
5 cerydd hallt mewn llais clir [sydd iti yn hytrach],
6 [ei] hymddangosiad [megis] gem, am yr hyn a genais
7 i'th wedd ddisglair, cyfrwng ysblennydd,
8 ac i'th ffurf wych, [ei] gwedd wythgwaith disgleiriach na lliw
gwawn.'
9 'Gallaf fod hebot, Dafydd, am [gyfnod] hir.
10 Gwnaed serch yn beth rhyfedd. Anfri sydd i ti
11 am [dy] fod, ymwybod purion â rhwystrau,
12 yn rhy llwfr, [un y mae] gair [ei fod yn] ddof.
13 Ni chaiff neb fy ennill, [trwy] nawdd yr Arglwydd,
14 gwr gwrthnysig wyt, ond y [gwr] dewraf oll'.
15 '[Yr un â] phenwisg o wallt mân unlliw â
gwawn mân,
16 yr wyt yn camgymryd, y ferch hynod o ffraeth.
17 Er mai llanc llwfr ydwyf ar faes y gad,
18 [un] tyner a bonheddig, [a'm] mynwes yn gwbl ddiamddiffyn,
19 nid llanc llwfr ydwyf yng nghanol y llwyni glas ac iraidd
20 yn y gweithgarwch [a ysgogir gan] gyfarwyddiadau Ofydd.
21 At hyn, yr un debyg i Eigr,
22 cadw mewn cof, dilys yw'r taliad,
23 [peth sy'n] ysgogi poen, nad doeth yw caru
24 llanc [sy'n] fythol ddewr, helbul garw a gafwyd [o wneud
hynny],
25 rhag ofn bod, ymwybod annymunol,
26 [pob] milwr yn rhy greulon.
27 Bydd yn wyllt ei natur ac yn afreolus.
28 Bydd wrth ei fodd [pan fydd] rhyfel a gwrthdaro.
29 Os clyw fod brwydr yn Ffrainc neu yn yr Alban
30 a dygn wysio [rhai] i frwydro,
31 her [fyddai hyn i wr] gwrol, acw ar ei daith yr â
ar ei union
32 yn un o'r rhengoedd.
33 Os daw oddi yno, pe digwyddai iddo ddianc,
34 gall wastrodi gwyr Ffrainc,
35 bydd yn greithiau i gyd, bydd saethydd yn gadael ei farc
arno,
36 ac yn waedlyd, y lodes wych a disglair iawn.
37 Gwell ganddo acw ei waywffon drom
38 a'i gleddyf (gwae y sawl sy'n ymddiried ynddo!)
39 ac arfbais ddur a tharian dywell
40 a march rhyfel na merch dlos.
41 Ni fydd yn dy amddiffyn pan ddaw argyfwng [sy'n achosi]
cwynfan,
42 ni fydd yn dy ddwyn o'th gartref ond trwy drais yn unig.
43 'Myfi fy hun â'r geiriau byrlymus,
44 pe bawn yn dy ennill, [yr un] a'i gwedd yn wirioneddol
ddisglair [megis y] gwawn,
45 medrwn dy amddiffyn yn barhaol,
46 lluniwn foliant cadarn, tyrd [ataf], ferch.
47 'Pe byddwn yn cael, meddiant cadarn,
48 [un a'i] gwedd megis Deifr, dwy deyrnas,
49 er eu mwyn nid awn o'th gartref disglair,
50 [un] ddwywaith cyn ddisgleiried â'r haul ac wythwaith
cyn ddisgleiried â'r dydd'.