{ko lle rhoedd y ferch yn dewis vn dewr}
1 Yr adlaesverch wawr dlosvain
2 wrm ael a wisc aur a main
3 ystyr eigr ystor awgrym
4 is dail aur a oes dal ym
5 ymliw glan o amlwg lais
6 em o Brydain a brydais
7 ith loywliw iaith oleulawn
8 ath lvn gwych wythliw ne gwawn
9 hir ith vaddeuaf ddauydd
10 hurtiwyd serch hort iti sydd
11 o vod rhyw gydnabod rhus
12 yn rhylwfr enw rheolus
13 ni'm caiph ineu noddieu naf
14 vthr wyd wr eithr y dewraf
15 cwfl manwallt cyfliw manwawn
16 cam a wnai ddyn cymxen iawn
17 cyd bwyf was cyweithas coeth
18 llwfr ynrhin llowvron rhynoeth
19 nid gwas lle bo gwyrddlas gwydd
20 llwfr wyf yngwaith llyfr Ovydd
21 a hevyd Eigr gyhaval
22 ystyr di ystiwyr dal
23 neitio cur nad da caru
24 gwas dewr vyth a gwst oer vu
25 rhac bod nid cydnabod cain
26 rhyvelwr yn rhy vvlain
27 rhinwyllt vydd a rhy anwar
28 rhyvel ag oervel a gar
29 o chlyw vod catervod tyn
30 brwydr yngwlad frainc nebrydyn
31 antur gwrdd hwnt ar gerdded
32 yn wr rhif yno i rhed
33 [330] o daw pe rhon a diainc
34 o ddyno medr frwyno frainc
35 creithiog vydd seuthydd ai sathr
36 a chreulawn ddyn wych rhylathr
37 mwy y car i drymbar draw
38 ai gledd gwae a goel iddaw
39 a mael dur a mul darian
40 a march o lu no merch lan
41 nith ni wel pan ddel poen
ddolef
42 nith gais eithr i drais or dref
43 mineu ar geiriau gorhoyw
44 pe'th gawn liw eglurwawn gloyw
45 da gwn trwsiwn wawd trasyth
46 degle verch dy gelu vyth
47 pe rhon ym gael gavael gaeth
48 Deifr vn hoen dwy vrenhiniaeth
49 devne'r haul nidawn er hyn
50 wythliw dydd oth loyw dyddyn
Dauid ap Gwilim