Trafferth mewn Tafarn
1 Deuthum i ddinas dethol
2 A'm hardd wreang i'm hôl.
3 Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
4 Cymryd, balch o febyd fûm,
5 Llety, urddedig ddigawn,
6 Cyffredin, a gwin a gawn.
7 Canfod rhiain addfeindeg
8 Yn y ty, f'un enaid teg.
9 Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
10 Fy mryd ar wyn fy myd main,
11 Prynu rhost, nid er bostiaw,
12 A gwin drud, mi a gwen draw.
13 Gwaraeau a gâr gwyr ieuainc,
14 Galw ar fun, ddyn gwyl, i'r fainc,
15 A gwledd am anrhydedd mawr
16 A wnaethom, mwy no neithiawr.
17 Hustyng, bûm wr hy astud,
18 Dioer yw hyn, deuair o hud.
19 Gwedy myned, dynged yng,
20 Y rhwystr gwedy'r hustyng,
21 Gwneuthur, ni bu segur serch,
22 Amod dyfod at hoywferch
23 Pan elai y minteioedd
24 I gysgu; bun aelddu oedd.
25 Gwedy cysgu, tru tremyn,
26 O bawb onid mi a bun,
27 Ceisiais yn hyfedr fedru
28 Ar wely'r ferch, alar fu.
29 Cefais, pan soniais yna,
30 Gwymp dig, nid oedd gampau da.
31 Briwais, ni neidiais yn iach,
32 Y grimog, a gwae'r omach,
33 Wrth ystlys, ar waith ostler,
34 Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
35 Trewais, drwg fydd tra awydd,
36 Lle y'm rhoed, heb un llam rhwydd,
37 Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
38 Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
39 Lle'r oedd cawg yrhawg yn rhydd
40 A llafar badell efydd.
41 Syrthio o'r bwrdd, dragwrdd drefn,
42 A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn.
43 Rhoi diasbad o'r badell,
44 I'm hôl y'i clywid ymhell.
45 Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
46 O'r cawg, a chyfarth o'r cwn.
47 Haws codi, drygioni drud,
48 Yn drwsgl nog yn dra esgud.
49 Dyfod, bu chwedl edifar,
50 I fyny, Cymry a'm câr,
51 Lle'r oedd garllaw muroedd mawr
52 Drisais mewn gwely drewsawr
53 Yn trafferth am eu triphac,
54 Hicin a Siencin a Siac.
55 Syganai'r delff soeg enau,
56 Aruthr o ddig, wrth y ddau:
57 'Mae Cymro, taer gyffro twyll,
58 Yn rhodio yma'n rhydwyll;
59 Lleidr yw ef, os goddefwn,
60 'Mogelwch, cedwch rhag hwn.'
61 Codi o'r ostler niferoedd
62 I gyd, a chwedl dybryd oedd.
63 Gygus oeddynt i'm gogylch
64 Bob naw i'm ceisiaw o'm cylch,
65 A minnau, hagr wyniau hyll,
66 Yn tewi yn y tywyll.
67 Gweddïais, nid gwedd eofn,
68 Dan gêl, megis dyn ag ofn,
69 Ac o nerth gweddi gerth gu,
70 Ac o ras y gwir Iesu,
71 Cael i minnau, cwlm anun,
72 Heb sâl, fy henwal fy hun.
73 Dihengais i, da yng saint,
74 I Dduw'r archaf faddeuaint.