â â â Trafferth mewn Tafarn
1â â â Deuthum i ddinas dethol
2â â â A'm hardd wreang i'm hôl.
3â â â Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
4â â â Cymryd, balch o febyd fûm,
5â â â Llety, urddedig ddigawn,
6â â â Cyffredin, a gwin a gawn.
7â â â Canfod rhiain addfeindeg
8â â â Yn y ty, f'un enaid teg.
9â â â Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
10â â â Fy mryd ar wyn fy myd main,
11â â â Prynu rhost, nid er bostiaw,
12â â â A gwin drud, mi a gwen draw.
13â â â Gwaraeau a gâr gwyr ieuainc,
14â â â Galw ar fun, ddyn gwyl, i'r fainc,
15â â â A gwledd am anrhydedd mawr
16â â â A wnaethom, mwy no neithiawr.
17â â â Hustyng, bûm wr hy astud,
18â â â Dioer yw hyn, deuair o hud.
19â â â Gwedy myned, dynged yng,
20â â â Y rhwystr gwedy'r hustyng,
21â â â Gwneuthur, ni bu segur serch,
22â â â Amod dyfod at hoywferch
23â â â Pan elai y minteioedd
24â â â I gysgu; bun aelddu oedd.
25â â â Gwedy cysgu, tru tremyn,
26â â â O bawb onid mi a bun,
27â â â Ceisiais yn hyfedr fedru
28â â â Ar wely'r ferch, alar fu.
29â â â Cefais, pan soniais yna,
30â â â Gwymp dig, nid oedd gampau da.
31â â â Briwais, ni neidiais yn iach,
32â â â Y grimog, a gwae'r omach,
33â â â Wrth ystlys, ar waith ostler,
34â â â Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
35â â â Trewais, drwg fydd tra awydd,
36â â â Lle y'm rhoed, heb un llam rhwydd,
37â â â Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
38â â â Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
39â â â Lle'r oedd cawg yrhawg yn rhydd
40â â â A llafar badell efydd.
41â â â Syrthio o'r bwrdd, dragwrdd drefn,
42â â â A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn.
43â â â Rhoi diasbad o'r badell,
44â â â I'm hôl y'i clywid ymhell.
45â â â Gweiddi, gwr gorwag oeddwn,
46â â â O'r cawg, a chyfarth o'r cwn.
47â â â Haws codi, drygioni drud,
48â â â Yn drwsgl nog yn dra esgud.
49â â â Dyfod, bu chwedl edifar,
50â â â I fyny, Cymry a'm câr,
51â â â Lle'r oedd garllaw muroedd mawr
52â â â Drisais mewn gwely drewsawr
53â â â Yn trafferth am eu triphac,
54â â â Hicin a Siencin a Siac.
55â â â Syganai'r delff soeg enau,
56â â â Aruthr o ddig, wrth y ddau:
57â â â 'Mae Cymro, taer gyffro twyll,
58â â â Yn rhodio yma'n rhydwyll;
59â â â Lleidr yw ef, os goddefwn,
60â â â 'Mogelwch, cedwch rhag hwn.'
61â â â Codi o'r ostler niferoedd
62â â â I gyd, a chwedl dybryd oedd.
63â â â Gygus oeddynt i'm gogylch
64â â â Bob naw i'm ceisiaw o'm cylch,
65â â â A minnau, hagr wyniau hyll,
66â â â Yn tewi yn y tywyll.
67â â â Gweddïais, nid gwedd eofn,
68â â â Dan gêl, megis dyn ag ofn,
69â â â Ac o nerth gweddi gerth gu,
70â â â Ac o ras y gwir Iesu,
71â â â Cael i minnau, cwlm anun,
72â â â Heb sâl, fy henwal fy hun.
73â â â Dihengais i, da yng saint,
74â â â I Dduw'r archaf faddeuaint.