Edited Text: 73 - Trafferth mewn Tafarn

Trafferth mewn Tafarn

Deuthum i ddinas dethol
A'm hardd wreang i'm hôl.
Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum,
4Cymryd, balch o febyd fûm,
Llety, urddedig ddigawn,
Cyffredin, a gwin a gawn.
Canfod rhiain addfeindeg
8Yn y tŷ, f'un enaid teg.
Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain,
Fy mryd ar wyn fy myd main,
Prynu rhost, nid er bostiaw,
12A gwin drud, mi a gwen draw.
Gwaraeau a gâr gwŷr ieuainc,
Galw ar fun, ddyn gŵyl, i'r fainc,
A gwledd am anrhydedd mawr
16A wnaethom, mwy no neithiawr.
Hustyng, bûm ŵr hy astud,
Dioer yw hyn, deuair o hud.
Gwedy myned, dynged yng,
20Y rhwystr gwedy'r hustyng,
Gwneuthur, ni bu segur serch,
Amod dyfod at hoywferch
Pan elai y minteioedd
24I gysgu; bun aelddu oedd.

   Gwedy cysgu, tru tremyn,
O bawb onid mi a bun,
Ceisiais yn hyfedr fedru
28Ar wely'r ferch, alar fu.
Cefais, pan soniais yna,
Gwymp dig, nid oedd gampau da.
Briwais, ni neidiais yn iach,
32Y grimog, a gwae'r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
Trewais, drwg fydd tra awydd,
36Lle y'm rhoed, heb un llam rhwydd,
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
Fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
Lle'r oedd cawg yrhawg yn rhydd
40A llafar badell efydd.
Syrthio o'r bwrdd, dragwrdd drefn,
A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn.
Rhoi diasbad o'r badell,
44I'm hôl y'i clywid ymhell.
Gweiddi, gŵr gorwag oeddwn,
O'r cawg, a chyfarth o'r cŵn.

   Haws codi, drygioni drud,
48Yn drwsgl nog yn dra esgud.
Dyfod, bu chwedl edifar,
I fyny, Cymry a'm câr,
Lle'r oedd garllaw muroedd mawr
52Drisais mewn gwely drewsawr
Yn trafferth am eu triphac,
Hicin a Siencin a Siac.
Syganai'r delff soeg enau,
56Aruthr o ddig, wrth y ddau:

   'Mae Cymro, taer gyffro twyll,
Yn rhodio yma'n rhydwyll;
Lleidr yw ef, os goddefwn,
60'Mogelwch, cedwch rhag hwn.'

   Codi o'r ostler niferoedd
I gyd, a chwedl dybryd oedd.
Gygus oeddynt i'm gogylch
64Bob naw i'm ceisiaw o'm cylch,
A minnau, hagr wyniau hyll,
Yn tewi yn y tywyll.
Gweddïais, nid gwedd eofn,
68Dan gêl, megis dyn ag ofn,
Ac o nerth gweddi gerth gu,
Ac o ras y gwir Iesu,
Cael i minnau, cwlm anun,
72Heb sâl, fy henwal fy hun.
Dihengais i, da yng saint,
I Dduw'r archaf faddeuaint.