| Trafferth mewn Tafarn | |
| Deuthum i ddinas dethol | |
| A'm hardd wreang i'm hôl. | |
| Cain hoywdraul, lle cwyn hydrum, | |
| 4 | Cymryd, balch o febyd fûm, |
| Llety, urddedig ddigawn, | |
| Cyffredin, a gwin a gawn. | |
| Canfod rhiain addfeindeg | |
| 8 | Yn y tŷ, f'un enaid teg. |
| Bwrw yn llwyr, liw haul dwyrain, | |
| Fy mryd ar wyn fy myd main, | |
| Prynu rhost, nid er bostiaw, | |
| 12 | A gwin drud, mi a gwen draw. |
| Gwaraeau a gâr gwŷr ieuainc, | |
| Galw ar fun, ddyn gŵyl, i'r fainc, | |
| A gwledd am anrhydedd mawr | |
| 16 | A wnaethom, mwy no neithiawr. |
| Hustyng, bûm ŵr hy astud, | |
| Dioer yw hyn, deuair o hud. | |
| Gwedy myned, dynged yng, | |
| 20 | Y rhwystr gwedy'r hustyng, |
| Gwneuthur, ni bu segur serch, | |
| Amod dyfod at hoywferch | |
| Pan elai y minteioedd | |
| 24 | I gysgu; bun aelddu oedd. |
| Gwedy cysgu, tru tremyn, | |
| O bawb onid mi a bun, | |
| Ceisiais yn hyfedr fedru | |
| 28 | Ar wely'r ferch, alar fu. |
| Cefais, pan soniais yna, | |
| Gwymp dig, nid oedd gampau da. | |
| Briwais, ni neidiais yn iach, | |
| 32 | Y grimog, a gwae'r omach, |
| Wrth ystlys, ar waith ostler, | |
| Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr. | |
| Trewais, drwg fydd tra awydd, | |
| 36 | Lle y'm rhoed, heb un llam rhwydd, |
| Mynych dwyll amwyll ymwrdd, | |
| Fy nhalcen wrth ben y bwrdd, | |
| Lle'r oedd cawg yrhawg yn rhydd | |
| 40 | A llafar badell efydd. |
| Syrthio o'r bwrdd, dragwrdd drefn, | |
| A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn. | |
| Rhoi diasbad o'r badell, | |
| 44 | I'm hôl y'i clywid ymhell. |
| Gweiddi, gŵr gorwag oeddwn, | |
| O'r cawg, a chyfarth o'r cŵn. | |
| Haws codi, drygioni drud, | |
| 48 | Yn drwsgl nog yn dra esgud. |
| Dyfod, bu chwedl edifar, | |
| I fyny, Cymry a'm câr, | |
| Lle'r oedd garllaw muroedd mawr | |
| 52 | Drisais mewn gwely drewsawr |
| Yn trafferth am eu triphac, | |
| Hicin a Siencin a Siac. | |
| Syganai'r delff soeg enau, | |
| 56 | Aruthr o ddig, wrth y ddau: |
| 'Mae Cymro, taer gyffro twyll, | |
| Yn rhodio yma'n rhydwyll; | |
| Lleidr yw ef, os goddefwn, | |
| 60 | 'Mogelwch, cedwch rhag hwn.' |
| Codi o'r ostler niferoedd | |
| I gyd, a chwedl dybryd oedd. | |
| Gygus oeddynt i'm gogylch | |
| 64 | Bob naw i'm ceisiaw o'm cylch, |
| A minnau, hagr wyniau hyll, | |
| Yn tewi yn y tywyll. | |
| Gweddïais, nid gwedd eofn, | |
| 68 | Dan gêl, megis dyn ag ofn, |
| Ac o nerth gweddi gerth gu, | |
| Ac o ras y gwir Iesu, | |
| Cael i minnau, cwlm anun, | |
| 72 | Heb sâl, fy henwal fy hun. |
| Dihengais i, da yng saint, | |
| I Dduw'r archaf faddeuaint. | |