Trafferth Mewn Tafarn
Deuthum i dref ddewisol
a'm gwas hardd i'm canlyn.
Gwariant llawen a theg, lle ardderchog am ginio,
4 cymerais lety cyhoeddus digon urddasol
(bûm yn ddyn ifanc gwych / balch),
ac fe gefais win.
Gwelais ferch fain a theg
8 yn y ty, fy un gariad hardd.
Rhoddais fy mryd yn llwyr
ar f'anwylyd fain, yr un lliw â haul y bore,
prynais gig rhost a gwin drud
12 (nid er mwyn dangos fy hun) [i] mi a'r ferch dlos acw.
Mae dynion ifainc yn hoffi chwarae gemau,
gelwais ar y ferch, un wylaidd, i [ddod ataf ar] y fainc,
ac fe gawsom wledd fawreddog,
16 un fwy na gwledd briodas.
Sibrydais ddau air hudolus
(bûm yn wr hy a dyfal, mae hynny'n sicr).
Gwedi i'r rhwystr ddiflannu
20 ar ôl y sibrwd (ffawd agos),
fe wnes i (ni bu serch yn segur / esmwyth)
gytundeb i ddod at y ferch hyfryd
pan fyddai'r torfeydd
24 yn mynd i gysgu; merch ag aeliau duon oedd hi.
Ar ôl i bawb ond fi a'r ferch
fynd i gysgu (truenus dros ben),
ceisiais yn fedrus iawn gyrraedd
28 gwely'r ferch, [ond] aeth pethau o chwith.
Cefais gwymp cas pan wnes i dwrw yna,
doedd dim llwyddiant o gwbl.
Brifais (ni neidiais yn ddianaf)
32 flaen fy nghoes uwchben y pigwrn
(a gwae'r goes!) ar ochr stôl swnllyd ffôl
o achos y tafarnwr.
Trewais (mae gorawydd yn beth drwg)
36 lle'r oeddwn wedi fy ngosod, heb un naid rwydd,
(dryswch aml gwrthdaro gwyllt)
fy nhalcen wrth ben y bwrdd,
lle'r oedd cawg erbyn hyn yn rhydd
40 a phadell bres swnllyd.
Syrthiodd y bwrdd, dodrefnyn trwm,
a'r ddau drestl a'r llestri i gyd.
Rhoddodd y badell waedd,
44 fe'i clywid ymhell y tu ôl i mi.
Gwaeddodd y cawg (dyn ofer oeddwn)
a chyfarthodd y cwn.
Mae'n haws codi yn flêr
48 (drygioni ffôl) nag yn gyflym iawn.
Deuthum i fyny (bu'n hanes i edifarhau amdano)
- Cymry a'm câr! -
lle'r oedd ger muroedd mawr
52 dri Sais mewn gwely drewllyd
yn poeni am eu tri phac,
Hicin a Siencyn a Siac.
Hisiodd y penbwl dreflog ei geg
56 (casineb creulon) wrth y ddau [arall]:
'Mae Cymro (cyffro ffyrnig dichellgar)
yn symud o gwmpas yma'n dwyllodrus iawn;
lleidr yw ef, os caniatawn iddo,
60 gwyliwch, gofalwch rhag hwn.'
Cododd y tafarnwr yr holl bobl,
ac roedd hi'n hanes enbyd.
Roedden nhw'n gwgu o f'amgylch
64 bob yn naw yn chwilio amdanaf o'm cwmpas,
a minnau (doluriau tost hyll)
yn cadw'n dawel yn y tywyllwch.
Gweddïais (nid mewn ffordd ddewr)
68 mewn cuddfan, fel rhywun ac ofn arno,
a thrwy nerth gweddi ddiffuant annwyl,
a thrwy ras y gwir Iesu,
cyrhaeddais (penbleth anhunedd)
72 fy hen loches fy hun heb ennill dim.
Dihengais i (diolch byth bod y saint yn agos),
gofynnaf i Dduw am faddeuant.