Trafferth Mewn Tafarn | |
Deuthum i dref ddewisol | |
a'm gwas hardd i'm canlyn. | |
Gwariant llawen a theg, lle ardderchog am ginio, | |
4 | cymerais lety cyhoeddus digon urddasol |
(bûm yn ddyn ifanc gwych / balch), | |
ac fe gefais win. | |
Gwelais ferch fain a theg | |
8 | yn y tŷ, fy un gariad hardd. |
Rhoddais fy mryd yn llwyr | |
ar f'anwylyd fain, yr un lliw â haul y bore, | |
prynais gig rhost a gwin drud | |
12 | (nid er mwyn dangos fy hun) [i] mi a'r ferch dlos acw. |
Mae dynion ifainc yn hoffi chwarae gemau, | |
gelwais ar y ferch, un wylaidd, i [ddod ataf ar] y fainc, | |
ac fe gawsom wledd fawreddog, | |
16 | un fwy na gwledd briodas. |
Sibrydais ddau air hudolus | |
(bûm yn ŵr hy a dyfal, mae hynny'n sicr). | |
Gwedi i'r rhwystr ddiflannu | |
20 | ar ôl y sibrwd (ffawd agos), |
fe wnes i (ni bu serch yn segur / esmwyth) | |
gytundeb i ddod at y ferch hyfryd | |
pan fyddai'r torfeydd | |
24 | yn mynd i gysgu; merch ag aeliau duon oedd hi. |
Ar ôl i bawb ond fi a'r ferch | |
fynd i gysgu (truenus dros ben), | |
ceisiais yn fedrus iawn gyrraedd | |
28 | gwely'r ferch, [ond] aeth pethau o chwith. |
Cefais gwymp cas pan wnes i dwrw yna, | |
doedd dim llwyddiant o gwbl. | |
Brifais (ni neidiais yn ddianaf) | |
32 | flaen fy nghoes uwchben y pigwrn |
(a gwae'r goes!) ar ochr stôl swnllyd ffôl | |
o achos y tafarnwr. | |
Trewais (mae gorawydd yn beth drwg) | |
36 | lle'r oeddwn wedi fy ngosod, heb un naid rwydd, |
(dryswch aml gwrthdaro gwyllt) | |
fy nhalcen wrth ben y bwrdd, | |
lle'r oedd cawg erbyn hyn yn rhydd | |
40 | a phadell bres swnllyd. |
Syrthiodd y bwrdd, dodrefnyn trwm, | |
a'r ddau drestl a'r llestri i gyd. | |
Rhoddodd y badell waedd, | |
44 | fe'i clywid ymhell y tu ôl i mi. |
Gwaeddodd y cawg (dyn ofer oeddwn) | |
a chyfarthodd y cŵn. | |
Mae'n haws codi yn flêr | |
48 | (drygioni ffôl) nag yn gyflym iawn. |
Deuthum i fyny (bu'n hanes i edifarhau amdano) | |
— Cymry a'm câr! — | |
lle'r oedd ger muroedd mawr | |
52 | dri Sais mewn gwely drewllyd |
yn poeni am eu tri phac, | |
Hicin a Siencyn a Siac. | |
Hisiodd y penbwl dreflog ei geg | |
56 | (casineb creulon) wrth y ddau [arall]: |
'Mae Cymro (cyffro ffyrnig dichellgar) | |
yn symud o gwmpas yma'n dwyllodrus iawn; | |
lleidr yw ef, os caniatawn iddo, | |
60 | gwyliwch, gofalwch rhag hwn.' |
Cododd y tafarnwr yr holl bobl, | |
ac roedd hi'n hanes enbyd. | |
Roedden nhw'n gwgu o f'amgylch | |
64 | bob yn naw yn chwilio amdanaf o'm cwmpas, |
a minnau (doluriau tost hyll) | |
yn cadw'n dawel yn y tywyllwch. | |
Gweddïais (nid mewn ffordd ddewr) | |
68 | mewn cuddfan, fel rhywun ac ofn arno, |
a thrwy nerth gweddi ddiffuant annwyl, | |
a thrwy ras y gwir Iesu, | |
cyrhaeddais (penbleth anhunedd) | |
72 | fy hen loches fy hun heb ennill dim. |
Dihengais i (diolch byth bod y saint yn agos), | |
gofynnaf i Dduw am faddeuant. | |