Cowydd ar drwstneiddrwydd y Bardd
1 Daethym i letty dethol
2 Anhardd wr ifanc im hol
3 Cwyn adrist cyfion owdrym
4 Cymryd balch o febyd fum
5 Lletty urddedig ddigawn
6 Cyffredin a gwin a gawn
7 Cañod rhiain addfain dêg
8 yn y Ty haelioni teg
9 Bwrw yn llwyr fal haul dwyrain
10 fy mryd ar wen fy myd main
11 Prynnu y rhost er bostiaw
12 a gwin drud i liw gwawn draw
13 Gwawr yw a gar gwyr ieuanc
14 galw'r fun ddydd gwyl ir fainc
19 Gwedi myned tynged ting
20 y rhwystr gwedi'r husting
15 A gwledd ac anrhydedd mawr
16 a wnaethon mwy no neithiawr
17 Husting ni bum wr huastyd
18 mi a hon ddeuair o hyd
21 Gwneuthur ni bu segur serch
22 amod dyfod at hoyw-ferch
23 Gwedi'r elai finteioedd
24 i gysgu bun aelddu oedd
25 Gwedi cysgu tru tremyn
26 o bawb ond myfi a bun
27 Profais yn hyfedr fedru
28 ar wely'r fun ac alar fu
51 Daethym lle roedd muroedd mawr
52 TriSais mewn gwely trowsfawr
53 mewn trafferth am eu triffac
54 Hickyn a Siockyn a Siack
55 Syganai un soeg enau
56 Aruthr o ddig wrth y ddau
57 Maer Cymro taer gyffro twyll
58 yna'n rhodio yn y tywyll
59 Lleidr fydd ef os goddefwn
60 Codwch cedwch rhag hwn
29 Cefais pan soniais yna
30 gwymp dig nid oedd gampe da
31 Briwais ni neidiais yn iach
32 y grim~og a gwar amach
33 Wrth ystlys och i'r ostler
34 [86v] Ystol geirch ffol goruwch ffêr
35 trewais drwg fur tra awydd
36 yrhawg ni chefais gam rhwydd
37 Aml dwyll amwyll ymwrdd
38 fy nhalcen wrth ben y Bwrdd
41 Syrthio'r Bwrdd hafysgwrdd hen
42 oddiar y ddau drestl ar ddodren
39 Lle roedd cawg ofyddlawg fydd
40 a llafar y badell efydd
43 Rhoes ddiasbad y Badell
44 i'm hol foi clywid ymhell
45 Gweiddi or gwr gorfog oeddwn
46 ar Cawg a chyfarth or Cwn
61 Codi or ostler ai niferoedd
62 i gyd chwedl dybryd oedd
63 Gwgys oeddwn ym gogylch
64 Im gwilio am ceisio im cylch
65 Minnau'n fardd hugan hyll
66 yn tewi yn y Tywyll
67 Gweddiais gweddi Eofn
68 dan gel megys dyn ac ofn
71 Cefais drwy ran am anhun
72 heb sal fy hoywal fy hun
D ap Gwylym ai ca[ ]
Nodiadau
Nodir nifer o ddarlleniadau amrywiol wrth ymyl y ddalen sy'n cyfateb
i ddarlleniadau LlGC 560.