1 doethvm i ddinas dethol
2 am hardd wr ifangk im hol
3 kain hoewdravl lle kwyn hydrvm
4 kymryd balch o febyd fvm
5 llety vrddedig ddigawn
6 kyffredin a gwin a gawn
7 kanfod rhiain addfaindeg
8 ofewn y ty fenaid teg
9 {bwrw'n llwyr liw haul dwyrain
10 y mryd ar mynu myd main
11 prynu rhost nid er bostiaw
12 a gwin drud mi am gwen draw
13 Gwareuau a gar gwyr Ieuaingc
14 Galw ar y fun gwyl ir faingc
15 a gwledd ac anrhydedd mawr
16 a wnaetho gwell na neithiawr}
17 isting yn air o astvd
18 a wnawn a hon air o hvd
21 gwnevthvr ni bv segvr serch
22 amod dyfod at hoew ferch
23 {Pan elai y minteioedd
24 i gysgu bun aelddu oedd}
25 wedi kysgv trv tremvn
26 o bawb onid mi a bvn
27 keisiais yn hyfedr fedrv
28 ar wyly r ferch alar fv
51 doevthvm lle i roedd mvroedd mawr
52 drisais mewn gwly drewsawr
53 yn trafferth am i tri ffagk
54 hvgvn a svgvn a siagk
55 [66b] svganair gwas soeg enav
56 arvthr wyf o ddig wrth y ddav
57 mae r kymro taer gyffro twyll
58 yn rhodio yma yn rhydwyll
59 lleidr yw ef os goddefwn
60 mogelwch kodwch rhag hwn
47 {Haws codi drygioni drud
48 yn drwsgl nag yn dra esgud}
29 kefais pan soniais yna
30 gwymp dig nid oedd gampav da
31 trewais esigais nis iach
32 y grimog a gwaer gomach
37 trewais esigais agwrdd
38 vynhalken wrth ben y bwrdd
39 lle r oedd kawg y rhawg yn rhydd
40 llefawr a ffadell efydd
41 syrthio or bwrdd dragwrdd drefn
42 ar ddevdrestl ar holl ddodrefn
43 rhoi diasbad or badell
44 om hol fom klowid ymhell
45 gweiddi gwr gorwag oeddwn
46 or kawg am kyfarth or kwn
61 kodi or ostler niferoedd
62 i gyd a chwedl dybryd oedd
63 gygvs oeddent im gogylch
64 yn chwilio im keisio im kylch
65 aminav yn fardd hardd go hyll
66 yn tewi yn y tywyll
67 gweddiais nid gwedd eofn
68 dan gel megys dyn ag ofn
69 o nerth y weddi gerth gv
70 ag o ras y gwir iessv
71 kefais pan soniais anvn
72 drwg sal fy henwal fy hvn
73 diengais i da myn y saint
74 i ddvw r archaf feddevaint
dafydd ap gwilym