Cowydd I trio i ferch a methu
1 Doethum i dinas dethol
2 a'm hardd wr eang i'm hol
3 Cael [ ] hoywdrael cwyn hedrum
4 Cymryd balch o febyd fum
5 Lletty urddedig ddigawn
6 Cyffredin a gwin a gawn
7 Canfod rhiain fain fwyndeg
8 Yn y ty fy enaid teg
21 Gwneuthur ni bu segur serch
22 Ammod dyfod at hoywferch
25 Gwedi cysgu tri trymun
26 O bawb onid mi a bun
27 Ceisiais yn hyfedr Fedru
28 Gwelu'r ferch a galar Fu
35 Trewais drwg fydd tra awydd
36 Llanw rhwysg heb un llam rhydd
37 Ammwyll dig ymmig ymmwrdd
38 Fy nhalcen wrth ben y bwrdd
41 [247] Syrthiodd y bwrdd drahwrdd drefn
42 A'r ddeudrestl a'r holl ddodrefn
43 Rhoi diasbad o'r badell
44 I'm hol e'm clowid ym mhell
45 Gweiddi gwr gorwag oeddwn
46 O'r cawn am gyfarth o'r cwn
31 Trewais ni neidiais yn iach
32 Y grimmog a gae'r amarch
33 Ar ystlys och yr ostler
34 Ystol grech ffol goruwch y ffer
49 Dyfod bu chwedl ydifar
50 I fynu cymru am car
51 Lle'r oedd gall y muroedd mawr
52 Drisais mewn gwely drewsawr
53 Yn trafferth am eu triffac
54 Hugyn a siencyn a siac
55 Suganai'r delf soeg enau
56 Araith oedd ddig wrth y ddau
57 Mae'r Cymro taer gyffro twyll
58 Yn rhodiaw ymma yn rhyw dwll
59 Lleidr yw ef a goddefwn
60 Mogelwch cedwch rhag hwn
65 A minnau hagr fardd gwinau hyll
66 Yn tewi yn y towyll
67 Gweddiais gwiw weddion
68 Dan gel megis dyn ag ofn
69 Ac o nerth gweddi gerth gu
70 Ac o ras y gwir Iesu
71 Cael i minnau cwlwm amun
72 Heb ffael fy hen wal fy hun
Dd ab Gwilym