â â â Sarhau ei Was
1â â â Gwyl Bedr y bûm yn edrych
2â â â Yn Rhosyr, lle aml gwyr gwych,
3â â â Ar drwsiad pobl, aur drysor,
4â â â A gallu Môn gerllaw môr.
5â â â Yno'dd oedd, haul Wynedd yw,
6â â â Yn danrhwysg, Enid unrhyw,
7â â â Gwenddyn mynyglgrwn gwynddoeth,
8â â â A gwych oedd a gwiw a choeth,
9â â â Ac unsut, fy nyn geinsyw,
10â â â Yn y ffair â delw Fair fyw,
11â â â A'r byd, am ei gwynbryd gwiw,
12â â â Ar ei hôl, eiry ei heiliw.
13â â â Rhyfedd fu gan y lluoedd,
14â â â Rhodd o nef, y rhyw ddyn oedd.
15â â â Minnau o'm clwyf a'm anhun
16â â â Yn wylo byth yn ôl bun.
17â â â A fu was a fai faswach
18â â â Ei fryd didwyll a'i bwyll bach?
19â â â Ar gyfair y gofl ddiell,
20â â â Od gwn, y byddwn o bell,
21â â â Yny aeth, dyniolaeth dwys,
22â â â I loywlofft faen oleulwys.
23â â â Troes ugain i'm traws ogylch
24â â â O'm cyd-wtreswyr i'm cylch.
25â â â Prid i'r unben a'i chwennych,
26â â â Profais y gwin, prif was gwych;
27â â â Prynais, gwaith ni bu fodlawn,
28â â â Ar naid ddau alwynaid lawn.
29â â â 'Dos, was, o'r mygr gwmpas mau,
30â â â Dwg hyn i'r ferch deg gynnau.
31â â â Rhed hyd ei chlust a hustyng
32â â â I'w thwf tëyrnaidd, a thyng,
33â â â Mwyaf morwyn yng Ngwynedd
34â â â A garaf yw, 'm Gwr a fedd.
35â â â Dyfydd hyd ei hystafell,
36â â â Dywaid, "Henffych, ddyn wych, well!"
37â â â Llym iawnrhwydd, "Llyma anrheg
38â â â I ti, yr addfwynddyn teg." '
39â â â 'Pond cyffredin y dinas?
40â â â Paham na'th adwaenam, was?
41â â â Pell ynfyd yw, pwyll anfoes,
42â â â Pei rhôn, dywaid pwy a'i rhoes.'
43â â â 'Dafydd, awenydd wiwnwyf,
44â â â Lwytu wr, a'i latai wyf.
45â â â Clod yng Ngwynedd a eddyw;
46â â â Clywwch ef; fal sain cloch yw.'
47â â â 'Cyfodwch er pum harcholl!
48â â â A maeddwch ef! Mae'dd ywch oll?'
49â â â Cael y claerwin o'r dinas
50â â â A'i dywallt yng ngwallt fy ngwas.
51â â â Amarch oedd hynny ymy,
52â â â Amorth Mair i'm hoywgrair hy.
53â â â Os o brudd y'm gwarthruddiawdd
54â â â Yngod, cyfadnabod cawdd,
55â â â Asur a chadas gasul,
56â â â Eisiau gwin ar ei min mul!
57â â â Bei gwypwn, gwpl diletpai,
58â â â Madog Hir, fy myd, a'i câi.
59â â â Hwyr y'i gwnâi, hagr westai hy,
60â â â Einion Dot yn un diawty.
61â â â Hi a wyl, bryd hoyw wylan,
62â â â Ei chlust â'i llygad achlân
63â â â Fyth weithion pan anfonwyf
64â â â I'r fun annyun o nwyf
65â â â Llonaid llwy o ddwfr llinagr
66â â â Yn anrheg, bid teg, bid hagr.