Sarhau ei Was
Ar Ddydd Gwyl Pedr bûm yn edrych
yn Rhosyr, lle mae llawer o wyr ysblennydd,
ar wisgoedd pobl, trysor aur,
4 a llu Môn ger y môr.
Yr oedd yno (hi yw haul Gwynedd)
yn disgleirio fel tân, yr un fath ag Enid,
ferch dyner, wen a chall, â gwddf siapus,
8 ac roedd yn ysblennydd a golygus a choeth,
a'r un fath, fy merch gain drwsiadus,
yn y ffair â delw fyw Mair,
a phawb ar ei hôl
12 oherwydd ei hwyneb gwyn hardd, yr un lliw â'r eira.
Roedd y torfeydd yn rhyfeddu
wrth weld y fath ferch, fel petai'n rhodd o'r nefoedd.
A finnau oherwydd fy nolur a'm diffyg cwsg
16 yn wylo'n ddi-baid y tu ôl i'r ferch.
A fu erioed ddyn ifanc mwy masweddus
ei feddwl gonest a'i synnwyr bach?
Byddwn yn gwylio'r goflaid ddi-fai,
20 yn wir, o bell,
nes iddi fynd, personoliaeth ddifrifol,
i oruwchystafell faen, olau a hardd.
Daeth ugain o'm cyd-loddestwyr
24 ataf yn gylch o'm cwmpas.
Costus i'r uchelwr sy'n ei chwenychu,
profais y gwin, dyn ifanc mawreddog ac ysblennydd;
prynais ddau alwyn llawn ar unwaith,
28 gweithred anffodus.
'Cer, was, o'm hymyl gwych,
a chluda hyn at y ferch deg [a welsom] gynnau.
Rheda at ei chlust a sibrwd
32 i'w siâp boneddigaidd, a thynga lw
mai hi yw'r forwyn a garaf fwyaf
yng Ngwynedd, myn Duw.
Dere hyd ei hystafell,
36 dywed, "Hawddamor, ferch hardd!"
cyflym a rhugl, "Dyma anrheg
i ti, y ferch hawddgar hardd." '
'Onid yw'r dref yn sathredig?
40 Pam nad wyf yn d'adnabod, was?
Estron gwallgof yw, synnwyr anfoesgar,
beth bynnag, dywed pwy a'i rhoddodd.'
'Dafydd, bardd da ei angerdd,
44 gwr llwyd tywyll, a'i negesydd serch ydw i.
Aeth [ei] glod hyd yng Ngwynedd;
clywch ef; mae fel swn cloch.'
'Codwch yn enw'r pum clwyf!
48 A churwch ef! Ble'r ydych chi i gyd?'
Cymerodd y gwin gloyw o'r dref
a'i arllwys yng ngwallt fy ngwas.
Roedd hynny'n sarhad i mi,
52 rhodded Mair aflwydd i'm trysor gwych eofn.
Os o ddifrif y sarhaodd fi
yno, cydnabod dicter,
mantell [o ddefnydd] asur a brodwaith,
56 boed eisiau gwin ar ei min ffôl!
Pe bawn i'n gwybod, trawst union,
f'anwylyd, fe'i câi Madog Hir.
Prin y byddai Einion Dot yn barod
60 i fod yn yr un dafarn â hi, gwestai hyll eofn.
Wyneb gwylan hardd, bydd hi'n gweld
ei chlust gyfan â'i llygad
cyn i mi fyth anfon bellach
64 lond llwy o ddwr claear
i'r ferch anhawddgar ei natur
yn anrheg, boed hi'n deg neu'n hyll.