1 Gwyl beder i bvm yn edrych
2 yn rhosyr lle aml gwyr gwych
3 ar drwssiad pobl avr drysor
4 a gallv mon gar llaw mor
5 yno ddoydd havl wynedd wiw
6 nid vnrhwysg enaid iownrhyw
7 gwenddyn mynyglgrwn gwnddoyth
8 a gwych oydd a gwiw a choyth
11 ar byd am i gwnbryd gwiw
12 ar i hol eiry hoywliw
15 [400] a minnav oydd om annvn
16 yn gwilio byth am gael bvn
17 a fv was a fai faswach
18 i fryd didwyll ai bwyll bach
19 ar gyfair avr gofl ddiell
20 od gwnn i byddwn o bell
21 onid ayth dynoliaeth dwys
22 i loywlofft fain olevlwys
25 prid ir vnbenn ai chwennych
26 profais y gwin prifwas gwych
27 prynnv gwaith ni fv fodlawn
28 ar naid ddav alwynaid lawn
29 dos was mydr gwmpas mav
30 dwg hynn ir ferch deg gynnav
35 dyfyn hyd i hystafell
36 dowaid henffych yn wych well
31 dos yn i chlvst a hvsting
32 yw thw teheyrnaidd a thyng
33 mwya morwyn yngwynedd
34 a gara mynn gwr a fedd
37 llym iownrhwysg llyma anrheg
38 i ti fy annwylddyn teg
41 pell ynfyd fydd pwyll anfoes
42 pe rhon dowaid pwy ai rhoes
43 davydd awenydd wiwnwyf
44 lwydtv wr ai lattai wyf
47 [401] yn ddibarch er pvm harcholl
48 meydd[ ]ch i ef mae eiddoch oll
49 kael y klaerwin or dinas
50 ai dowalld yngwalld yngwas
51 ammarch oydd hynny ymmy
52 ammorth mair im hoywgrair hy
53 os o brvdd im gwarthrvddawdd
54 isod fydd kydnabod kawdd
55 assvr a chadach gasvl
56 eisiav gwin ar i min mvl
59 hwyr i gwnai hagr westai hy
60 einnion dott yn vn diowtty
61 hi a wyl yr hoyw wylan
62 i chlvst ai llygad achlan
63 beth weithion penn anfonwyf
64 ir fvn anyfvn o nwyf
65 llonaid llwy o ddwr llinagr
66 yn anrheg bid teg bid hagr
davydd ap gwilim ai kant