I ferch fonheddig o fon yr hon yr anfonassei ef ei was a gwin iddi yn
Rhossyr, ac y taflassai hitheu y Gwin am ben ei was ef
1 Gwyl Bedr y bum yn edrych
2 yn Rhossyr lle aml gwyr gwych
3 Ar drwssiad pobl aur dryssor
4 a gallu Môn ger llaw môr
5 yno ddoedd haul Wynedd wiw
6 Nid anrhwysc onid vn rhyw
7 Gwen-ddyn fynygl-grwn gwyn-ddoeth
8 A gwych oedd a gwiw a choeth
11 A'r byd am ei gwyn-bryd gwiw
12 Ar ei hol eiry hoew-liw
15 Minnau o'm clwyf am annun
16 yn gwilio byth am gael bun
17 A fu was a fai faswach
18 Ei fryd a'i swydd ai bwyll bach
19 [6v] ar gyfair aur gofl ddiell
20 Od gwn y byddwn o bell
21 Oni aeth dyniolaeth dwys
22 I loew-lofft faen oleu-lwys
25 Prid i'r vn-benn ai chwennych
26 Profais y gwin prif-was gwych
27 Prynu gwaith ni bu boddlawn
28 Ar naid ddau alwynaid lawn
29 Dos was mydr yw'r cwmpas mau
30 Dwg hyn i'r ferch deg gynnau
35 Dyfyn hyd ei hystafell
36 Dywaid Henffych yn wych well
31 Dos yn ei chlust a husting
32 iw thwf tehyrnaidd a thyng
33 mwyaf morwyn yng-Wynedd
34 a garafi /m/ gwr a fedd
37 llym iawn-rhyw llyma anrheg
38 I ti fy annwyl-ddyn teg
41 Pell ynfyd fydd pwyll anfoes
42 pe rhon dywaid pwy a'i rhoes
39 Pand cyffredin ydinas
40 paham i'th adwaenam was
43 Dafydd awenydd wiw-nwyf
44 lwytu wr ai latai wyf
47 yn ddibarch er pum harcholl
48 meyddwch chwi ef mae ddywch oll
49 Cael y claer win or ddinas
50 ai dywallt yng-wallt yng-was
51 Amarch a oedd hynny i my
52 Amorth Mair i'm hoew-grair hy
53 Os o brudd i'm gwarthruddiawdd
54 issod cyfadnabod cawdd
55 Assur a chadas gassul
56 Eissiau gwîn ar ei mîn mul
57 Pe gwypwn gwpl diletbai
58 Madoc hir y myd ai cai
59 Hwyr y gwnai hagr westai hy
60 Einion dot mewn diowty
61 Hi a wyl yr hoew wylan
62 Ai chlust ei llygad achlan
63 Byth weithion pan anfonwyf
64 I'r fun an-nyun o nwyf
65 llonaid llwy o ddwfr llinagr
66 Yn anrheg bid teg bid hagr
dd ap Gwilym