â â â Serch fel Ysgyfarnog
1â â â  Llyma bwynt, lle mae y bydd,
2â â â  Llyfr canon llafur cynydd:
3â â â  Helynt glastorch a hwyliai,
4â â â  Hydr drafferth, o'r berth y bai,
5â â â  Glustir lwyd, ger glasterw lwyn,
6â â â  Gernfraith, gyflymdaith lamdwyn.
7â â â  Gofuned hued yw hi,
8â â â  Gwlm cytgerdd, golam coetgi,
9â â â  Gwrwraig a wnâi ar glai glan
10â â â  Gyhyrwayw i gi hwyrwan,
11â â â  Genfer gwta eginfwyd,
12â â â  Gwn dynghedfen lawdrwen lwyd.
13â â â  Sorod wlydd newydd uwch nant,
14â â â  Socas welltblas wylltblant,
15â â â  Llodraid o garth mewn llwydrew,
16â â â  Lledfegin twyn eithin tew,
17â â â  Herwraig ar lain adain yd,
18â â â  Her, gethinfer gath ynfyd!
19â â â  Mynyddig wâl, benial byllt,
20â â â  Mynnen aelodwen lwydwyllt,
21â â â  Esgud o'i phlas ar lasrew,
22â â â  Ysgwd o flaen esgid flew.
23â â â  Emlyner hi, ymlynynt,
24â â â  Ymlaen gwyr, ymlöyn gwynt,
25â â â  O hynt i hynt i hwntian,
26â â â  O goed i faes gloywlaes glân,
27â â â  O blas cynnil bwygilydd,
28â â â  O blith y gwlith i bleth gwlydd,
29â â â  Ysgafn fryd, ac yd a gâr.
30â â â  Os gad Duw, esgud daear,
31â â â  Ys gwyr fwriad anwadal,
32â â â  Ysgwd gwyllt, esgud o'i gwâl,
33â â â  Esgair cath, nyth dwynpath nod,
34â â â Ysgor ddofn, ys gwyr ddyfod 
35â â â  I'r tyddyn, lle tywyn tes,
36â â â  Or câi fwyd, y cyfodes.
37â â â  Anhunawg am fun hynwyf,
38â â â  Anffyrf ddysg, unffurf ydd wyf:
39â â â  Fy nadl am fy eneidyn,
40â â â  Fy nysg fu garu fy nyn,
41â â â  Fy meddwl pan fûm eiddig,
42â â â  Fy mwriad tost, fy mryd dig,
43â â â  O gof awdl a gyfodes,
44â â â  O'r llwyn y buasai er lles,
45â â â  O wely serch, ddyn wiwloyw,
46â â â  O winllawr deheuwawr hoyw.
47â â â  Heliais ef, helwas ofer,
48â â â  I hwylio serch, hoywliw sêr,
49â â â  I wrth deg, araith digiaw,
50â â â  Ei thâl, o bedryfal draw.
51â â â  By les ym (ni bu laesach)
52â â â  Boen erioed heb un awr iach?
53â â â  Rhedodd ei serch, ddoethferch ddig,
54â â â  Rhadau Duw, rhediad ewig,
55â â â  Led y ddeudroed, lid ddodrefn,
56â â â  Leidr, o'i chof i'w le drachefn.
57â â â  Ni thrig o'i fodd, lle rhoddwyf,
58â â â  Eithr lle bu yn clymu clwyf,
59â â â  Ni lecha yng ngolychwyd,
60â â â  Nid â'n rhwym mewn dwyen rhwyd.
61â â â  Ni wyr unne eiry llannerch,
62â â â  Y meddwl drud, symud serch;
63â â â  Heiniar ofn, hyn o ryfel,
64â â â  Hwn nid â, o'r henw y dêl,
65â â â  Hwyl ynfyd ei fryd, o'i fro,
66â â â  Hawl y dyn, hoelied yno.
67â â â  Gwlad Wgon, fawr union faich,
68â â â  Gleddyfrudd, gloyw ei ddeufraich,
69â â â  Heno ni chaf, glaf glwyfaw,
70â â â  Huno drem oni fwyf draw.
71â â â  Hirddig a wnaeth hardd ei gne,
72â â â  Henlleidr unrhyw â hunlle.