Serch fel Ysgyfarnog
Dyma destun llyfr rheolau
gwaith meistr y cwn, lle mae [yr ysgyfarnog] y bydd
[ef]:
helfa lefren a yrrai
4 o'r berth lle byddai, helbul mawr,
un llwyd, hir ei chlustiau, ger llwyn derw gwyrdd,
frychlyd ei bochau, gyflym ei chwrs yn llamu dros y twyni.
Dyhead cwn hela yw hi,
8 cân gydseiniol, naid blaidd,
benyw wraidd a achosai ar fryncyn clai
boen cyhyrau i gi araf a gwan,
yr un gota ei chynffon, fer ei gên, sy'n bwyta egin,
12 mi wn beth fydd tynged yr un llwyd â'r trowsus gwyn.
Gwehilion gwrysg newydd uwchben nant,
hosanau ... un â'i chartref yn y gwellt ac epil
gwyllt,
llond trowser o faw mewn barrug,
16 creadur hanner dof y llwyn eithin tew,
crwydren ar ymyl cae yd,
dos, y gath wyllt fer a brychlyd!
Gwâl yn y bryniau, penwisg o saethau,
20 gafr ifanc wyllt lwyd â choesau gwynion,
gyflym o'i gwâl ar farrug,
hyrddiad gan flaen esgid o flew.
Dilyner hi, hynt helfa,
24 o flaen dynion, rholiwr y gwynt,
wrth iddi grwydro'r naill ffordd a'r llall,
o goed i faes golau braf ar lethr,
o'r naill le call i'r llall,
28 o ganol y gwlith i ddrysni'r gwrysg,
meddwl gwamal, ac mae'n hoff o yd,
os bydd Duw'n caniatáu, gwibiwr y ddaear,
mae ganddi fwriad gwamal yn ei meddwl,
32 hyrddiad gwyllt, cyflym o'i gwâl,
coes cath, ei nod yw lloches bryncyn,
cadarnle dwfn, mae'n medru dychwelyd
i'r drigfan, lle mae heulwen yn tywynnu,
36 os câi fwyd, lle y cododd.
Di-gwsg am ferch nwyfus,
medr gwan, yr wyf yn union yr un fath:
fy achos am f'anwylyd,
40 fy nysgeidiaeth fu canlyn fy nghariad,
fy mhendroni pan fûm yn eiddigeddus,
fy amcan poenus, fy meddwl blin,
a gododd o goffadwriaeth awdl,
44 o'r llwyn lle y buasai er daioni,
o wely serch, merch hardd a disglair,
o neuadd win arglwydd deheuol llawen.
Heliais ef, heliwr ofer,
48 er mwyn gyrru serch (lliw hyfryd y sêr)
oddi wrth y ferch hardd ei thalcen
o'r [llys] petryal acw, datganiad sy'n peri gofid.
Pa les i mi (ni laciodd o gwbl)
52 oedd poen barhaus heb un awr iach?
Rhedodd ei serch, merch gall a blin
(bendithion Duw), rhediad ewig,
led y ddwy droed, aelodau sy'n peri traserch,
56 y lleidr, o'i meddwl hi yn ôl i'w le.
Nid yw'n fodlon aros, lle bynnag y'i dodwyf,
ond lle bu'n rhwymo clwyf,
ni lecha mewn cilfach,
60 nid â ynghlwm yng ngenau rhwyd.
Nid yw'r ferch o liw eira'r llannerch
yn arfer symud serch, y meddwl cadarn;
cnwd ofn [yw] hyn o wrthdaro,
64 nid â'r serch hwn (beth bynnag yw'r enw arno)
o'i fro, helynt gwallgof yw ei fwriad,
hawl y ferch, fe'i hoeliwyd yno.
Gwlad Gwgon Gleddyfrudd,
68 baich mawr syth, disglair ei freichiau,
ni allaf gysgu'r un winc heno,
salwch tost, oni fyddaf acw.
Fe achosodd yr un hardd ei lliw boen hir,
72 hen leidr yr un fath â hunllef.