â â â Anwadalrwydd
1â â â Ysgyfarnog yng nghartref
2â â â A fag rhai oni fo cref.
3â â â Cath hirdaith, gethinfraith gern,
4â â â Cod lwydwyllt coedwal adwern,
5â â â Crair hy bron a ffy ar ffysg,
6â â â Craig, byhwmanwraig manwrysg,
7â â â Dieithr fydd er ei meithring.
8â â â Ar ir drum gwrthallt y dring.
9â â â Gwiwair o châi frig gwial,
10â â â Gwaeth oedd i'r tadmaeth y tâl:
11â â â Brad hy mewn llety lletollt,
12â â â Bradog darf, belltarf â bollt.
13â â â Astud air, ys doud erof,
14â â â Ystid goch, os da dy gof,
15â â â Boned yr hydd gelltydd gil,
16â â â Ban oeddud gynt banw eiddil.
17â â â Iwrch drythyll, hely, deilgyll hawl,
18â â â Erchwys hydr iyrchus hudawl.
19â â â Rhywyllt ei ruthr mewn rhewynt,
20â â â Rhyfain hydd rhy fuan hynt.
21â â â Rhydain iwrch rhedai yn Iâl,
22â â â Rhy dinwyn lwdn rhedynwal.
23â â â Edifar fydd eu dofi:
24â â â Dan frig gwydd y trig y tri.
25â â â Dwfn helynt a lletgynt llid,
26â â â Dirmygyn' dir y'u megid.
27â â â Felly y gwnaeth, gaeth gariad,
28â â â Gar fy mron, goryw fy mrad,
29â â â Â myfi, cywely call,
30â â â Unne geirw, neu ag arall.
31â â â Bannau'r haul leufer loywfys,
32â â â Bliant uwch y grisiant grys
33â â â A phân wisg, aur ei deurudd,
34â â â Mair wyl, o ystlys Môr Rudd,
35â â â Megais hon, dirmygus swydd,
36â â â Tôn aml, o oed deunawmlwydd.
37â â â Lluniais gerdd a dillynion
38â â â I geisio dyhuddo hon.
39â â â Rhin gall, er hynny i gyd,
40â â â Anolo fu'r anwylyd.