Anwadalrwydd
Bydd rhai yn meithrin ysgyfarnog gartref
hyd nes y bydd wedi prifio.
[Un megis] cath yn teithio beunydd, ei phen yn rhuddgoch a
brychlyd,
4 swpyn gwyllt a llwyd ei lliw [sy'n] cartrefu yn llwyni'r tir
corslyd,
trysor beiddgar y llethr a'r graig sy'n dianc ymaith ar ras,
un sy'n mynd a dod rhwng y brwyn isel,
bydd yn [dal yn] estron er iddi gael ei hymgeleddu.
8 Ar ochrau ffrwythlon y llechweddau y bydd yn dringo.
Os caiff gwiwer [gyfle i ddringo] i frig y canghennau,
bydd llai o elw i'r sawl a'i magodd:
twyll digywilydd mewn hollt [mewn pren sydd iddi] yn gartref
12 ymhell o ddychryn saeth, [un sy'n] ffoi yn ddichellgar.
Dy arfer oedd dod ataf, siarad helaeth [sydd amdanat],
[un megis] cadwyn goch, os medri gofio [hynny],
pan oeddet gynt yn anifail eiddil,
16 noddfa'r hydd yw cyrion y llechweddau.
Carw ifanc bywiog ['nawr], bydd y cwn eiddgar yn hela'r
carw hudolus
[a dyna eu] hawl yn y llwyni cyll deiliog.
Bydd ei ruthr pan fydd y gwynt yn iasoer yn un ffyrnig,
20 yr hydd gosgeiddig a'i symudiad chwim.
Gallai'r carw redeg cyn belled â Iâl,
y creadur purwyn ei ben ôl a'i loches yn y rhedyn.
Siom a ddaw [i'r sawl a gais] eu dofi:
24 myn y tri fod o dan ganghennau'r coed.
[Eu natur yw] dirmygu'r fan lle cawsant eu hymgeleddu
[ac achosa hyn] wir flinder a cholled [sy'n peri] dicter.
Yn yr un modd y gwnaeth union liw ewyn y môr
28 yn fy ngwydd, serch [sy'n esgor ar] gaethiwed,
â mi, cyflawnodd frad yn fy erbyn,
y gariadferch lechwraidd, fel [y gwnâi] ag arall.
Un ddisglair [megis] bysedd pelydrau'r haul a'i oleuni,
32 [a chanddi] wisg o liain main dros grys llathrwyn
ac o ffwr [a ddaeth] o lannau Môr y Gogledd,
disglair yw ei gruddiau, Mair sanctaidd,
meithrinais hon, llafur [a arweiniodd at] sen,
36 o'r adeg yr oedd yn ddeunaw oed, [tystiaf i hyn megis]
tôn gron.
Cenais gerddi a [chyfansoddiadau eraill] cain
i geisio ei boddhau.
[un] ofalus wrth reddf, er y cwbl hyn,
40 ni roes fy anwylyd ddim [i mi].