â â â Y Mab Maeth
1â â â Mau gariad mewn magwriaeth,
2â â â Mab rhyfygus, moethus, maeth,
3â â â Mireinfab mawr ei anfoes,
4â â â Meinferch mewn traserch a'm troes.
5â â â Mab ym heddiw, nid gwiw gwad,
6â â â Maeth, rhag hiraeth, yw cariad.
7â â â Mawr o ddrwg, cilwg culi,
8â â â A wnaeth fy mab maeth i mi:
9â â â Mynnu ei ddwyn er mwyn merch,
10â â â Mynnu gorllwyn ymannerch;
11â â â Mynnu rhodio mewn rhedyn,
12â â â Mynnu ei ddenu o ddyn;
13â â â Mae'n rhyfawr ym 'y nhrafael,
14â â â Mynnu ei gelu a'i gael;
15â â â Meinir a wyr fy mynud,
16â â â Mynnu gwynfydu yn fud.
17â â â Megais, neur guriais, gariad
18â â â Mal mab maeth, brydyddiaeth brad.
19â â â Meithrin chwileryn gwyn gwâr
20â â â Ym mynwes, o serch meinwar,
21â â â Oedd ym fagu, llysu lles,
22â â â Mebyn meinwyn i'm mynwes.
23â â â Mab rhyfedd, mi a'i profaf,
24â â â Ei foes yw hwn fis o haf:
25â â â Ni myn cariad ei wadu
26â â â Na'i ddangos i lios lu;
27â â â Ni thry o ardal calon,
28â â â Ni thrig eithr ym mrig 'y mron;
29â â â Ni ddichon ef heddychawd,
30â â â Ni westety gwedy gwawd;
31â â â Nid eisteddai pe bai Bab,
32â â â Ni orwedd f'anniweirfab;
33â â â Ni saif, ni orsaif eurserch,
34â â â Natur gwyl, am orchwyl merch.
35â â â Tyfais ei chlod hyd Deifi,
36â â â Tadmaeth serch y ferch wyf fi.
37â â â Mab anodd, mi a boenais,
38â â â Ei feithring yw fyth rhwng f'ais.
39â â â Aflonydd yw fo 'leni,
40â â â Y mab a fegais i mi.
41â â â Megais, dyn wyf cynnwyf, cain,
42â â â Anwylfab y fun aelfain.
43â â â Bychan, em eirian, i mi,
44â â â Budd, er magu mab iddi.
45â â â Oerfel, serchowgrwydd eurfaeth,
46â â â I'r ferch a'i rhoddes ar faeth,
47â â â Oni thâl, llawn ofal llu,
48â â â Mau fygwth, am ei fagu.