Y Mab Maeth
Mae gennyf gariad mewn magwraeth,
mab maeth rhyfygus, wedi'i ddifetha,
mab hardd, a'i anfoesgarwch yn fawr,
4 a drosglwyddwyd imi mewn traserch gan ferch fain.
Mab maeth (ni thâl gwadu)
yw cariad imi heddiw oherwydd hiraeth.
Gwnaeth fy mab maeth (gwg llawn nychdod)
8 niwed mawr imi:
mynnu cael ei ddwyn er mwyn merch,
mynnu disgwyl cyfarchiad;
mynnu cerdded mewn rhedyn,
12 mynnu cael ei hudo gan ferch;
mae fy ngofid yn rhy fawr imi,
mynnu cael ei guddio a'i ddarganfod;
mae'r eneth brydferth yn gyfarwydd â'm moesgarwch,
16 mynnu cenfigennu yn fud.
Magais (fe ddihoenais) gariad
fel mab maeth, barddoniaeth brad.
Meithrin sarff deg ddof
20 mewn bron, oherwydd serch at eneth hardd,
oedd imi fagu (gan ymwrthod â'm lles fy hun)
mab bychan main a theg yn fy mron.
Mab rhyfedd ei arfer (ac fe'i profaf)
24 yw hwn fis o haf:
ni ddymuna cariad gael ei wadu
na'i ddangos i dyrfa fawr;
nid yw'n symud o gyffiniau'r galon,
28 nid yw'n trigo ond yn nhu uchaf fy mron;
ni all fod yn llonydd,
ni ostega ar ôl cân;
nid eisteddai pe bai'n Bab,
32 ni orwedd fy mab anniwair;
ni saif, nid erys cariad gwych
(addfwyn ei natur) am orchwyl merch.
Cynyddais ei mawl hyd afon Teifi,
36 tad maeth serch y ferch wyf fi.
Mab anodd ei feithrin (bûm yn pryderu)
ydyw o hyd rhwng f'asennau.
Aflonydd eleni
40 yw'r un a fagais yn fab imi.
Magais (dyn nwyfus, hardd ydwyf)
fab annwyl y ferch â'r aeliau main.
Bychan yw'r wobr i mi
44 am fagu mab iddi, yr em ddisglair.
Melltith (cariad gwych ei fagiad)
ar y ferch a'i rhoddodd ar faeth,
oni fydd hi'n fodlon talu (digon o bryder i liaws) -
48 dyma fy mygythiad - am ei fagu.